
2006 Rhif 621 (Cy.70)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach (Dirymu) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 7 Mawrth 2006
Yn dod i rym 6 Ebrill 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a Chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach (Dirymu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2006.
Dirymu
2 

(1) Mae'r Rheoliadau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn (sy'n ymwneud â chorfforaethau addysg bellach yng Nghymru) drwy hyn wedi'u dirymu.
(2) Mae'r Rheoliadau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn wedi'u dirymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mawrth 2006
YR ATODLEN
Rheoliad 2
Rhan 1 Y Rheoliadau a Ddirymwyd

 Rheoliadau Coleg Menai (Llywodraethu) 1994 (O.S. 1994/1450)

Rhan 2 Y Rheoliadau sy'n cael eu Dirymu mewn perthynas â Chymru

 Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Chweched Dosbarth) 1992 (O.S. 1992/1957)
 Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/1963)
