
2006 Rhif 519 (Cy.63)
HADAU, CYMRU
Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 28 Chwefror 2006
Yn dod i rym 3 Mawrth 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 16(1) ac (1A)(e) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo, ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo yr effeithir arnynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 3 Mawrth 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Ffioedd
2 

(1) Rhaid i berson sy'n gwneud cais am gael tatws hadyd wedi'u dosbarthu dalu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran ei swyddogaethau o dan Reoliadau Tatws Hadyd 1991 ac a restrir yn yr Atodlen, neu i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i gyflawni'r swyddogaethau hynny ar ei ran, y ffioedd a restrir yn yr Atodlen o ran y swyddogaethau hynny.
(2) Mae'r ffi a bennir yn yr Atodlen fel y ffi sy'n daladwy am bob swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yno.
Tynnu cais yn ôl
3 
Os yw person sy'n gwneud cais am gael tatws hadyd wedi'u dosbarthu yn tynnu ei gais neu ei chais yn ôl cyn i'r arolygydd gyrraedd er mwyn arolygu'r cnwd am y tro cyntaf, rhaid i'r person hwnnw neu honno dalu ffi o £15 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i wneud arolygiad o'r fath ar ei ran.
Dirymu rheoliadau blaenorol
4 
Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) 1998 yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlathol
28 Chwefror 2006
YR ATODLEN
Rheoliad 2


Y Swyddogaeth Ffi (Ffi flaenorol) Lleiafswm y ffi (Lleiafswm blaenorol y ffi)
Arolygu cnydau sy'n tyfu a darparu selau a labeli o ran ceisiadau am iddynt gael eu ddosbarthu:—
fel tatws hadyd cyn-sylfaenol £81.00 (—) N/A (N/A)
fel tatws hadyd sylfaenol:—    
dosbarth VTSC £75.00 (£75.00) N/A (N/A)
dosbarth Super Elite £40.50 (£40.50) £81.00 (£81.00)
dosbarth Elite £40.50 (£40.50) £81.00 (£81.00)
dosbarth AA £38.50 (£38.50) £77.00 (£77.00)
fel tatws hadyd ardystiedig £35.00 (£35.00) £70.00 (£70.00)
o dan gynllun neu drefniadau eraill yn unol â pharagraff 4(c)(ii) o Ran II o Atodlen 1 i Reoliadau Tatws Hadyd 1991 £81.00 (—) N/A (N/A)
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Hyd at ddau arolygiad £12.00 (£12.00) £24.00 (£24.00)
Y trydydd arolygiad a phob arolygiad wedyn £81.00 (£81.00) N/A (N/A)
