
2006 Rhif 362 (Cy.48)
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU
Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006
Wedi'u gwneud 14 Chwefror 2006
Yn dod i rym 1 Ebrill 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 43(1) a (2) a 44(1) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006 a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod ond sy'n—
(a) aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod, neu
(b) aelod o unrhyw gydbwyllgor neu gyd is-bwyllgor o'r awdurdod ar y cydbwyllgor neu ar y cyd is-bwyllgor hwnnw,ac sy'n gymwys i bleidleisio ar unrhyw fater sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu is-bwyllgor hwnnw;
 ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol, awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf Amgylchedd 1995 neu awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005.
Diddymu a diwygio is-ddeddfwriaeth
2 
Mae'r is-ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 1 yn cael ei dirymu.
3 
Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth.
Darpariaethau trosiannol
4 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys os—
(a) oes honiad wedi cael ei wneud i Gomisiynydd Lleol yng Nghymru o dan adran 69 Deddf Llywodraeth Leol 2000 cyn y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym, a
(b) nad yw'r honiad wedi cael ei benderfynu gan y Comisiynydd hwnnw cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Ar y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym ac ar ôl hynny, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion yr honiad er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf neu'r Gorchymyn hwn.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys os—
(a) gallesid (heblaw am ddarpariaethau'r Ddeddf) bod wedi gwneud honiad i Gomisiynydd Lleol yng Nghymru, a
(b) yw'r honiad yn honiad bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn aelod neu gyn aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol yng Nghymru wedi methu neu y gall fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod cyn y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym.
(4) Ar y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym ac ar ôl hynny, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion galluogi i'r honiad gael ei wneud, ac at ddibenion yr honiad os y'i gwneir, er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf neu'r Gorchymyn hwn.
(5) Pan fo paragraffau (2) a (4) yn gymwys, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn effeithiol fel pe bai cyfeiriadau at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi eu rhoi yn lle cyfeiriadau at y Comisiynydd Lleol yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2006
ATODLEN 1
DIRYMU IS-DDEDDFWRIAETH
Erthygl 2

Mae'r is-ddeddfwriaeth ganlynol yn cael ei dirymu—
(a) Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru (Cwynion am Gamweinyddu) (Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 1999;
(b) Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001; ac
(c) Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Comisiynydd Lleol yng Nghymru) 2004.

ATODLEN 2
DIWYGIO IS-DDEDDFWRIAETH
Erthygl 3
Gorchymyn Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (Rhagnodi) 1990
1 
Yn y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (Cyfarwyddyd) 1990, yn Atodlen 2 (Rhagnodi), yn y cofnod yn y golofn gyntaf ar gyfer “Officer of the Health Service Commissioner for England or Wales” hepgorer y geiriau “or Wales”.
Rheoliadau Cefnogi Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datgeliad) 1992
2 
Yn Rheoliadau Cefnogi Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datgeliad) 1992, yn Rheoliad 11 (Cyflogaeth y mae adran 50 o'r Ddeddf yn gymwys iddi)—
(a) hepgorer paragraff (d);
(b) hepgorer “and” ar ôl paragraff (h);
(c) ar ôl paragraff (i), mewnosoder—“
 ; and
(j) the Public Services Ombudsman for Wales, a member of his staff, or another person acting on his behalf or assisting him in the discharge of any of his functions”.
Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993
3 
Yn Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993, yn Atodlen 3 (GPA Atodiad I Awdurdodau Contractio)—
(a) yn lle “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration and Health Service Commissioners”, rhodder “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration”;
(b) ar ôl y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraph (a) uchod mewnosoder, “Office of the Public Services Ombudsman for Wales”;
(c) ar ôl y cyfeiriad at “Office of Fair Trading” mewnosoder “Office of the Health Service Commissioner for England”.
Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995
4 
Yn Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995, yn Atodlen 1 (GPA Atodiad I Awdurdodau Contractio)—
(a) yn lle'r cofnod ar gyfer “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration and Health Service Commissioners”, rhodder “Office of the Parliamentary Commissioner for Administration”;
(b) ar ôl y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraph (a) uchod mewnosoder, “Office of the Public Services Ombudsman for Wales”;
(c) ar ôl y cofnod ar gyfer “Office of Fair Trading” mewnosoder “Office of the Health Service Commissioner for England”.
Gorchymyn Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (Darpariaethau Trosiannol) 1996
5 
Yng Ngorchymyn Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (Darpariaethau Trosiannol) 1996, yn Erthygl 9(1) hepgorer “or Wales”.
Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001
6 
Yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001—
(a) Yn Rheoliadau 3(2), 5(1)(b), 7 ac 8(3)(a) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” yn ôl y digwydd, rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol;
(b) Yn Rheoliadau 7(a), 9(3) ac 13(1) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol; a
(c) Yn Rheoliad 12 yn lle “Comisiynydd Lleol i Gymru ” dylid rhoi “Public Services Ombudsman for Wales”.
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
7 
Yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001, yn Rheoliad 29(2) yn lle “Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001
8 
Yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001, yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) o Atodlen 1, ym mharagraff 16, colofn 1, yn lle “y Comisiynydd Lleol” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.
Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001
9 
Yn Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 , yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “adroddiad” (“report”) , paragraff 2, paragraff 8 a pharagraff 16 (ym mhob lle y mae'n ymddangos) yn lle “Comisiynydd Lleol yng Nghymru” neu “Gomisiynydd Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” fel bo'n briodol;
(b) Ym mharagraff 2(a), yn lle “Comisiynydd Lleol” dylid rhoi “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”; ac
(c) Ym mharagraff 8, yn lle'r “Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.
Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001
10 
Yn y Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001, yn Rhan II o'r Atodlen, ym mharagraff 6(1)(c), yn lle “Comisiynydd Lleol dros Weinyddu Lleol yng Nghymru” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.
Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001
11 
Yn Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001, yn Rhan I (Swyddogaethau amrywiol) o Atodlen 1, ym mharagraff 16, colofn 1, yn lle “y Comisiynydd Lleol” rhodder “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Datgymhwyso) 2003
12 
Yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Datgymhwyso) 2003—
(a) Yn Rhan 1 o'r Atodlen hepgorer y cyfeiriad at “The Commission for Local Administration in Wales”; ac
(b) Yn Rhan 2 o'r Atodlen hepgorer y cyfeiriad at “Health Service Commissioner for Wales” .
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005
13 
Yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005, yn Rheoliad 43(1), yn is-baragraff (ch), dylid rhoi “Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru” yn lle “Gomisiynydd Gweinyddiaeth Leol yng Nghymru”.