
2006 Rhif 3452 (Cy. 313)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006
Wedi'u gwneud 21 Rhagfyr 2006
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran Polisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2006.
Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 wedi'u diwygio'n unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 16(4), yn lle “1 January 2007” rhodder “1 Ebrill 2007”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan AC/AM
Prif Weinidog Cymru
21 Rhagfyr 2006