
2006 Rhif 344 (Cy.41)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 14 Chwefror 2006
Yn dod i rym 15 Chwefror 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2), o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 15 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)
2 
Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel petai—
(a) yn is-adran (3)(a) y geiriau “or relevant special grant” wedi'u hepgor; a
(b) yr is-adran ganlynol wedi'i mewnosod ar ôl is-adran (12)—“
(12A) In this section and section 33 below—
(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2006-2007 (Final Settlement — Councils) published by the National Assembly for Wales pursuant to section 84G(4) of the Local Government Finance Act 1988 14 December 2005; a
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.”.
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (awdurdodau bilio)
3 
Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel petai'r geiriau “or relevant special grant” yn eitem P wedi'u hepgor.
Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)
4 
Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel petai—
(a) yn is-adran (3)(a)(i)—
(i) y geiriau “relevant special grant” wedi'u hepgor;
(ii) y geiriau “floor funding” wedi'u mewnosod o flaen “or police grant;” a
(b) ar ôl is-adran (6D) yr is-adrannau a ganlyn wedi'u mewnosod—“
(6E) In this section and section 44 below—
(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2006-2007 (Final Settlement — Police Authorities) published by the National Assembly for Wales pursuant to section 84G(4) of the Local Government Finance Act 1988 on 31 January 2006; and
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.
(6F) In this section and section 44 below, “floor funding” means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State, in addition to the police grant referred to in subsection (6C).”.
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (prif awdurdodau praeseptio)
5 
Mae adran 44 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel petai yn is-adran (1) yn eitem P—
(a) y geiriau “relevant special grant” wedi'u hepgor; a
(b)  y geiriau “floor funding” wedi'u mewnosod o flaen “or police grant;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2006