
2006 Rhif 3366 (Cy.308)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 13 Rhagfyr 2006
Yn dod i rym 15 Rhagfyr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 79 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006
2 
Yn Atodlen 3 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (Ffioedd Band 3 — Darparu Cyfarpar) hepgorer paragraff (i).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Rhagfyr 2006