
2006 Rhif 3347 (Cy.307)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 12 Rhagfyr 2006
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988  a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.
(2) Ym mharagraff 3(1)(b) o atodlen 1, yn lle'r geiriau “other than” hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw, rhodder “in relation to which section 47(2)(b), (ba) or (c) applies were taken into account”.
(3) Ym mharagraff 2(12) o atodlen 2, yn lle “1.004” rhodder “1.001”.
(4) Yn lle atodlen 4 rhodder yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Rhagfyr 2006
YR ATODLEN
Rheoliad 2
“
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES


Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 52,900
Bridgend 101,600
Caerphilly 130,300
Carmarthenshire 140,000
Cardiff 251,200
Ceredigion 64,100
Conwy 88,800
Denbighshire 75,600
Flintshire 166,900
Gwynedd 93,100
Isle of Anglesey 54,300
Merthyr Tydfil 42,100
Monmouthshire 68,300
Neath Port Talbot 106,200
Newport 106,100
Pembrokeshire 91,500
Powys 103,800
Rhondda Cynon Taf 179,100
Swansea 179,800
Torfaen 69,600
Vale of Glamorgan (The) 94,600
Wrexham 102,300”