
2006 Rhif 3339 (Cy.302) (C.120)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 12 Rhagfyr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 128(4) a 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Enwi a Dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2003.
Dod i rym
2 
Yn ddarostyngedig i Erthygl 3, daw adran 63 o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2007.
Arbedion
3 
Mae adrannau 42A(1), 43(6B) a 47(3A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, fel maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny, i barhau i weithredu mewn perthynas â Chymru fel pe nas gwnaethpwyd y diwygiadau i'r adrannau hynny gan adran 63 o'r Ddeddf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Rhagfyr 2006