
2006 Rhif 3257 (Cy.297) (C.117)
CEFN GWLAD, CYMRUHAWLIAU TRAMWY, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9 ac Arbediad) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 5 Rhagfyr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9 ac Arbediad) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwrnodau penodedig
2 
6 Rhagfyr 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym—
(a) adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith—
(i) i baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (darpariaethau ynghylch cynlluniau gwella hawliau tramwy a baratoir o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004, a
(ii) i baragraff 26 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (amrywiol swyddogaethau awdurdodau Parciau Cenedlaethol);
(b) adran 69(1) a (3) o'r Ddeddf (codi neu wella camfeydd, etc.) i'r graddau y mae'n darparu'r pŵer i ddyroddi canllawiau;
(c) adran 102 o'r Ddeddf (diddymiadau) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r cofnod ynghylch—
(i) adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (“Deddf 1925”) yn Rhan 1 o Atodlen 16 i'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym o ganlyniad i Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004, a
(ii) paragraff 9 o Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn Rhan II o Atodlen 16 i'r Ddeddf.
3 
I'r graddau nad yw eisioes mewn grym, daw adran 69 o'r Ddeddf (codi neu wella camfeydd, etc.) i rym ar 1 Ebrill 2007.
Arbed
4 
Er gwaethaf diddymu adran 193(2) o Ddeddf 1925 gan erthygl 2(c)(i) o'r Gorchymyn hwn, mae unrhyw weithred a gyflawnir o dan yr is-adran honno sydd mewn grym yn union cyn i'r erthygl honno ddod i rym yn parhau i fod yn effeithiol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Rhagfyr 2006