
2006 Rhif 3250 (Cy.294)
HADAU, CYMRU
Rheoliadau Hadau Yd (Cymru) a Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 5 Rhagfyr 2006
Yn dod i rym 20 Rhagfyr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 16(1), (1A), (3) a (4) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo.
Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno mae wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo yr effeithir arnynt.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) a Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) (Diwygio) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 20 Rhagfyr 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005 fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn 3 o'r Tabl yn Atodlen 7 (pwysau lotiau a samplau), yn lle “25”, pa le bynnag yr ymddengys, rhodder “30”.
Diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 23(3) (samplu), ychwaneger ar y diwedd—“
 ;
(c) where more than 50% of the mixture consists of a species of seed for which the maximum weight of a seed lot prescribed in seed regulations is 30 tonnes, the maximum weight of the seed lot must be 30 tonnes.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Rhagfyr 2006