
2006 Rhif 3108 (Cy.287)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 22 Tachwedd 2006
Yn dod i rym 27 Tachwedd 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 13(1) a (6) o Ddeddf Safonau Gofal 1988, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 27 Tachwedd 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn:
 ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person sydd â hawl i fudd-dal yn unol â rheoliadau 3 a 4 o'r prif reoliadau;
 ystyr “bwyd Cychwyn Iach” (“Healthy Start food”) yw'r bwyd a bennir yng Ngholofn 1 (categori o fwyd) yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn fel y'i goleddfir yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno;
 ystyr “cynllun Cychwyn Iach” (“Healthy Start scheme”) yw'r cynllun a sefydlwyd gan y prif Reoliadau;
 ystyr “fitaminau Cychwyn Iach” (“Healthy Start vitamins”) yw'r fitaminau a bennir yn rheoliad 3; ac
 ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach a Bwyd Lles (Diwygio) 2005.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Nodir bwyd Cychwyn Iach o ran gweithredu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru fel a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
3 
Tabledi neu ddiferion fitamin sy'n cynnwys fitaminau sy'n briodol i'r buddiolwr sy'n eu cael yw fitaminau Cychwyn Iach o ran gweithredu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2006
YR ATODLEN


Categori o fwyd Goleddfiad
Llaeth Llaeth gwartheg hylif, gan gynnwys mathau hir-oes, pastiwreiddiedig, neu fathau a driniwyd ag uwch-wres, ond nid llaeth yr ychwanegwyd cemegion, fitaminau, cyflasau neu liwiau iddo neu laeth y'u tynnwyd oddi wrtho.
Fformiwla babanod Bwyd ac iddo sylfaen o laeth gwartheg ac a fwriedir yn benodol i'w ddefnyddio'n faethol gan fabanod sydd mewn iechyd da ac sy'n diwallu ar ei ben ei hun anghenion maethol y babanod hynny.
Ffrwythau a llysiau ffres Ffrwythau a llysiau ffres gan gynnwys ffrwythau a llysiau rhydd, wedi'u rhagbacio, cyfain, wedi'u tafellu, wedi'u torri, neu wedi'u cymysgu, ond nid ffrwythau na llysiau yr ychwanegwyd halen, siwgr, perlysiau neu unrhyw gyflasyn arall iddynt.