
2006 Rhif 3103 (Cy.286)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 21 Tachwedd 2006
Yn dod i rym 1 Ebrill 2007
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 55(4), 56(3), 57(7), (9) a (10) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “adroddiad o arolygiad” (“inspection report”) yw'r adroddiad ar arolygiad y mae'n ofynnol i'r Prif Arolygydd ei wneud o dan adran 57(7);
 ystyr “cynllun gwaith” (“action plan”) yw'r datganiad ysgrifenedig sy'n ymateb i adroddiad o arolygiad y cyfeirir ato yn adran 57(9) a rheoliad 6.
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998,
 ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005;
 ystyr “gwyl y banc” (“bank holiday”) yw diwrnod sy'n wyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn wyl y banc;
 ystyr “y Prif Arolygydd” (“the Chief Inspector”) yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi ar Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru; ac
 mae i “service provider” a “relevant provider” yr ystyron a roddir iddynt gan adrannau 55 a 56 yn eu tro;
(2) Os yw'n ofynnol, o dan y Rheoliadau hyn, i rywbeth gael ei wneud gan gyfeirio at gyfnod o amser sy'n cael ei gyfrif o ddyddiad penodol, mae'r cyfnod hwnnw'n dechrau yn union ar ôl y dyddiad hwnnw.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adrannau (heb fwy) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005.
Arolygiadau cyntaf
3 

(1) Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys yn achos darparydd gwasanaeth neu ddarparydd perthnasol na chafodd ei archwilio o'r blaen naill ai o dan adran 35 neu 35A o Ddeddf 1998 nac o dan adran 55 neu 56.
(2) Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys, mae'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol i gael ei arolygu o dan adran 55 neu 56 (yn ôl y digwydd), o fewn cyfnod o chwe blynedd o'r dyddiad pryd y daeth y darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol gyntaf yn ddarparydd o'r fath.
Bylchau rhwng arolygiadau olynol
4 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 3, rhaid i'r Prif Arolygydd wneud arolygiad, o dan adran 55, ar bob darparydd gwasanaeth, ac o dan adran 56 ar bob darparyddperthnasol, ar ôl pob bwlch o chwe blynedd.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae bylchau yn cychwyn o'r dyddiad pryd y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf ar y darparydd gwasanaeth (o dan adran 35 o Ddeddf 1998 neu adran 55) neu ar y darparydd perthnasol (o dan adran 35A o Ddeddf 1998 neu adran 56).
Y cyfnod ar gyfer paratoi adroddiad o arolygiad
5 
Y cyfnod y mae adroddiad o arolygiad i gael ei baratoi o'i fewn yw deg a thrigain o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad pryd y cwblhawyd yr arolygiad arno.
Dyletswydd i baratoi cynllun gwaith
6 
Rhaid i berson sy'n cael arolygiad dan adran 55 neu 56 baratoi adroddiad ysgrifenedig sy'n ymateb i'r adroddiad o arolygiad gan osod allan y camau fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw faterion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad o arolygiad neu i weithredu unrhyw argymhellion a geir yn yr adroddiad, a'r graddfeydd amser ar gyfer cymryd y camau hynny neu ar gyfer gweithredu'r argymhellion hynny (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “cynllun gwaith”).
Y cyfnod ar gyfer paratoi cynllun gwaith
7 
Y cyfnod y mae'n rhaid i berson sy'n cael archwiliad dan adran 55 neu 56 baratoi cynllun gwaith o'i fewn yw hanner cant o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y cafodd y person hwnnw gopi o'r adroddiad o arolygiad o dan adran 57(7)(b).
Darparu copïau o adroddiadau o arolygiadau a chynlluniau gwaith a'u cyhoeddi
8 

(1) Rhaid i'r Prif Arolygydd anfon copi o adroddiad o arolygiad at y personau a ddynodir ym mharagraff (3) (yn ychwanegol at y rheini a ddynodir yn adran 57(7)(b)(i), (ii) a (iv) o Ddeddf 2005).
(2) Rhaid i'r person sydd wedi paratoi cynllun gwaith anfon copi ohono at y personau a ddynodir ym mharagraff (3).
(3) Y personau hynny yw—
(a) y Prif Arolygydd; a
(b) unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.
9 
Rhaid i gopi o'r adroddiad o arolygiad a'r cynllun gwaith fod ar gael i'w archwilio yn swyddfa gofrestredig neu ym mhrif swyddfa'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol a gafodd ei archwilio, a rhaid ei gyhoeddi ar unrhyw wefan ar y rhyngrwyd sydd gan y darparydd hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006