
2006 Rhif 3101 (Cy.285)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 21 Tachwedd 2006
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005.
Diwygio Rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau
3 
Mae Rheoliad 2(1) wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraffau (a) — (ch)—
(a) ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn 795/2004” mewnosoder “, fel y diwygiwyd y Rheoliad Comisiwn hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1291/2006”;
(b) ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn 1973/2004” mewnosoder “, fel y diwygiwyd y Rheoliad Comisiwn hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1250/2006”;
(c) ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” mewnosoder “, fel y diwygiwyd y Rheoliad Cyngor hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) 953/2006”;
(ch) ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliadau Trawsgydymffurfio 2004” mewnosoder “fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005”.
Diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau
4 
Yn Rheoliad 6(5) o'r prif Reoliadau, yn lle'r geiriau “31 Ionawr” rhodder y geiriau “9 Chwefror”.
Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
5 

(1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau wedi'i diwygio'n unol â pharagraffau (2) i (8):
(2) Ar ôl paragraff 7(3) mewnosoder—“
(4) Ym mhob cae neu ran o gae y mae unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) yn cael ei weithredu, bydd ffermwr yn rhinwedd y ddarpariaeth hon yn cael ei drin fel un sy'n esempt rhag gofyniad i sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn unrhyw un o'r amgylchiadau a bennir yn is-baragraffau (5) i (7).
(5) Mae'r amgylchiad cyntaf yn codi —
(a) pan fyddo'r ffermwr wedi cymryd pob cam rhesymol i sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau tymor y gorchudd glas;
(b) pan fyddo'r gorchudd glas wedi methu ac na fyddo wedi bod yn rhesymol bosibl i'r ffermwr atal y methiant hwnnw; ac
(c) pan fyddo'r ffermwr wedi gadael y gorchudd glas a fethodd i ganiatáu aildyfiant naturiol.
(6) Mae'r ail amgylchiad yn codi pan fyddo'r ffermwr—
(a) wedi hau cnwd ar y tir hwnnw cyn 1 Hydref yn y flwyddyn flaenorol er mwyn ei gynaeafu ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw;
(b) wedi cynaeafu'r cnwd hwnnw ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw a chyn dechrau'r tymor gorchudd glas; ac
(c) wedi caniatáu aildyfiant naturiol ar ôl y cynhaeaf.
(7) Mae'r trydydd amgylchiad yn codi—
(a) pan fyddo'r ffermwr wedi hau cnwd ar y tir hwnnw cyn 1 Hydref yn y flwyddyn flaenorol i'w gynaeafu ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw;
(b) pan fyddo'r cnwd wedi methu gyda'r canlyniad nad oedd yn gallu dwyn cynhaeaf cyn dechrau'r tymor gorchudd glas ac na fyddo wedi bod yn rhesymol bosibl i'r ffermwr atal y methiant hwnnw; ac
(c) pan fo'r ffermwr wedi caniatáu aildyfiant naturiol ar ôl y cynhaeaf.
(8) Rhaid i ffermwr, mewn perthynas â'r cae neu'r rhan o gae lle caniataodd aildyfiant naturiol fel y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (5) i (7), gydymffurfio â'r amodau a nodir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon sy'n ymwneud ag opsiwn yr aildyfiant naturiol.
(9) Pan fo ffermwr yn cael ei drin fel un sy'n esempt yn rhinwedd is-baragraff (4), caiff sefydlu gorchudd glas serch hynny ar ôl dechrau'r tymor gorchudd glas drwy hau—
(a) hadau o fath perthnasol; neu
(b) cymysgedd perthnasol o hadau.
(10) Rhaid i'r ffermwr hwnnw, mewn perthynas â'r cae neu'r rhan o gae lle mae'r gorchudd glas hwnnw wedi'i sefydlu, gydymffurfio â'r amodau a nodir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon ac sy'n ymwneud—
(a) pan fo'r hadau a heuwyd yn hadau o fath perthnasol, ag opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau; a
(b) pan fo'r hadau a heuwyd yn gymysgedd perthnasol o hadau, ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt.”.
(3) Ym mharagraff 9 yn lle'r Rhif “15” , rhodder y Rhif “17”.
(4) Ym mharagraff 11(2), yn lle'r gair “baragraff” rhodder y gair “is-baragraff”.
(5) Ym mharagraff 12 rhodder “12(1)” yn lle “12” ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder y canlynol —“
(2) Ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 1 Mai caiff ffermwr drin tir organig sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu at ddibenion rheoli chwyn.
(3) Yn y paragraff hwn —
 ystyr “Compendium of UK Organic Standards” yw'r argraffiad Gorffenhaf 2005 o'r Compendium of UK Organic Standards, a gyhoeddwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/1991” (“Council Regulation (EEC) No 2092/1991”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/1991 ar gynhyrchu cynhyrchion a bwydydd amaethyddol yn organig, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 780/2006;
 ystyr “tir organig” (“organic land”) yw tir sydd —
(a) yn cael ei reoli yn unol â'r dull cynhyrchu organig o dan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/1991 fel ag y mae'n ymwneud â thir sy'n hollol organig, neu dir sy'n troi'n organig o dan y Rheoliad Cyngor hwnnw, fel y'i darllenir (yn y naill achos a'r llall) gydag unrhyw ddarpariaethau ychwanegol a nodir yn y Compendium of UK Organic Standards; a
(b) yn ddarostyngedig i'r system arolygu o dan Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/1991.”.
(6) Ym mharagraff 13, mae is-baragraff (4) wedi'i ddileu.
(7) Ym mharagraff 14(2)(a), yn lle'r geiriau “baragraffau 11(3) a 13(4)” rhodder y geiriau “baragraff 11(3)”.
(8) Ar ôl paragraff 15, ychwaneger y canlynol —“
Taenu plaleiddiaid ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu
16 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 17, rhaid i ffermwr beidio â thaenu plaleiddiaid ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol.
(2) Ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 15 Gorffennaf caiff ffermwr daenu plaleiddiaid, ond nid plaleiddiaid sy'n fioleiddiaid, at ddibenion paratoi ar gyfer hau.
(3) Yn y paragraff hwn —
(a) ystyr “pla” (“pest”) yw unrhyw organedd sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion pren neu gynhyrchion planhigion eraill, unrhyw blanhigyn nas dymunir ac unrhyw greadur niweidiol; a
(b) ystyr “plaleiddiaid” (“pesticides”) yw unrhyw sylwedd, paratoad neu organedd a baratowyd neu a ddefnyddiwyd i ddifa unrhyw bla.
Taenu chwynleiddiaid ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu
17 

(1) Yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol caiff ffermwr daenu chwynleiddiad cyn 15 Ebrill ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu —
(a) os yw'n chwynleiddiad o fath sydd naill ai —
(i) yn cael ei amsugno i'r planhigyn yn bennaf drwy'r dail a'r coesyn; neu
(ii) wedi'i gymeradwyo o dan reoliad 5 o Reoliadau Rheoli Plaleiddiaid 1986 neu o dan reoliadau 5, 7, 8 neu 11 o Reoliadau Cynhyrchion Amddiffyn Planhigion 2005 ac y mae dull ei daenu'n cydymffurfio â'r gymeradwyaeth honno; a
(b) os bydd y gwaith o'i daenu —
(i) yn annhebygol o niweidio'n sylweddol y gorchudd glas ar y tir; neu
(ii) yn cael ei wneud cyn amnewid gorchudd glas yn unol â pharagraff 13(1); neu
(iii) yn cael ei wneud drwy sbot-chwynnu neu drwy ddefnyddio wic; neu
(iv) yn cael ei wneud er mwyn creu llain o dir nad oes rhaid i ffermwr sefydlu gorchudd glas arno yn rhinwedd paragraff 7(2), neu i gadw'r llain honno'n foel.
(2) Ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 15 Ebrill yn y cyfnod neilltir cyfredol, caiff ffermwr daenu chwynleiddiad ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006