
2006 Rhif 3097 (Cy.281)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 21 Tachwedd 2006
Yn dod i rym 23 Tachwedd 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac â chynrychiolyddion ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Tachwedd 2006.
(2) Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol.
(3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr “cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol” yw cwestiwn o beidio â chasglu o dan Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ac—
(a) sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006; a
(b) nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005
2 
Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005, mewnosoder “cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un a gyfeirir at baragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle “£1,575” ym mhob man y'i gwelir rhodder “£1,625”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, rhodder “£12,470” yn lle “£12,182”.
(4)  Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—

(1) Part of relevant income to which specified percentage applies (2) Only assisted pupil (%) (3) Each of two assisted pupils (%) Each of three assisted pupils (%)
That part (if any) which exceeds £12,304 but does not exceed £13,380. 9 6.75 5.25
That part (if any) which exceeds £13,380 but does not exceed £14,472. 12 9 7
That part (if any) which exceeds £14,472 but does not exceed £16,637. 15 11.25 8.75
That part (if any) which exceeds £16,637 but does not exceed £19,977. 21 15.75 12.25
That part (if any) which exceeds £19,977 but does not exceed £24,331. 24 18 14
That part (if any) which exceeds £24,331 35 24.75 19.25
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006