
2006 Rhif 30 (Cy.4)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 10 Ionawr 2006
Yn dod i rym 11 Ionawr 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 537A(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2006.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau newydd canlynol—“
 ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;”;“
 ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ond nid yw'n cynnwys uned cyfeirio disgyblion;”.
(3) Yn rheoliad 2, yn lle'r diffiniad o “disgybl chweched dosbarth” rhodder—“
 ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl mewn ysgol sy'n cael addysg addas ar gyfer anghenion disgyblion dros yr oedran ysgol gorfodol;”.
(4) Yn Rhan 1 o'r Atodlen, ym mharagraff 5, hepgorer “ac, os felly, gyda phwy”.
(5) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ym mharagraff 1 yn lle “disgybl chweched dosbarth yn yr ysgol” rhodder “person sydd, neu a oedd, ar unrhyw adeg blaenorol yn ystod y flwyddyn ysgol y cafodd y cais am yr wybodaeth ei wneud ynddi, yn ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol”.
(6) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ym mharagraff 1(c) ar ôl “ddechrau” mewnosoder “a diwedd”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Ionawr 2006