
2006 Rhif 2992 (Cy.279) (C.106)
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 15 Tachwedd 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 107(4)(b) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.
Cychwyn Rhan 6 o'r Ddeddf
2 
Daw Rhan 6 (hawliau tramwy) o'r Ddeddf i rym ar 16 Tachwedd 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2006