
2006 Rhif 2986 (Cy.276)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 14 Tachwedd 2006
Yn dod i rym 16 Tachwedd 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 25(7), 104(1), a (4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraffau 4(1)(a) o Atodlen 4, 7(1)(a) a (4) o Atodlen 5, a 10(1)(a) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno a phob pŵer arall sy'n ei alluogi i wneud hynny, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2006 a byddant yn dod i rym ar 16 Tachwedd 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2 
Mae Rheoliad 3 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) 1991 (Cymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol o lety diogel mewn cartref plant) wedi'i ddirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Tachwedd 2006