
2006 Rhif 2983 (Cy.274)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 14 Tachwedd 2006
Yn dod i rym 17 Tachwedd 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 125B(3) a (4) o Ddeddf Tai 1996 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 17 Tachwedd 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai annedd yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at—
(a) tenant, yn gyfeiriadau at denant rhagarweiniol;
(b) landlord, yn gyfeiriadau at awdurdod tai lleol sydd wedi dewis gweithredu trefn tenantiaethau rhagarweiniol; ac
(c) penderfyniad, yn gyfeiriadau at benderfyniad i estyn cyfnod treialu.
Hawl i gael adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar
2 

(1) Pan fo tenant yn gwneud cais am hynny, rhaid i adolygiad o dan adran 125B o Ddeddf Tai 1996 o benderfyniad fod ar ffurf gwrandawiad llafar.
(2) Rhaid gwneud unrhyw gais o'r fath i'r landlord cyn diwedd y cyfnod amser a ganiateir o dan is-adran (1) o'r adran honno (yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais am adolygiad).
Hysbysiad am adolygiad
3 
Rhaid i'r landlord roi i'r tenant hysbysiad o ddeng niwrnod clir o leiaf am—
(a) dyddiad adolygiad; a
(b) yn achos adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar, amser a lle'r adolygiad.
Personau sy'n cael cynnal adolygiadau
4 

(1) Rhaid i adolygiad gael ei gynnal gan berson nad oedd ganddo ran yn y penderfyniad.
(2) Pan fo'r adolygiad yn adolygiad o benderfyniad a wnaed gan un o swyddogion y landlord a bod yr adolygiad i'w gynnal gan swyddog arall, rhaid i'r swyddog sy'n adolygu'r penderfyniad fod mewn swydd uwch o fewn sefydliad y landlord na'r swyddog a wnaeth y penderfyniad.
Sylwadau ysgrifenedig yn yr adolygiad
5 

(1) P'un a yw'r adolygiad i'w gynnal ar ffurf gwrandawiad llafar ai peidio, caiff y tenant gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r landlord mewn cysylltiad â'r adolygiad.
(2) Rhaid i'r sylwadau hynny ddod i law'r landlord nid llai na dau ddiwrnod clir cyn dyddiad yr adolygiad.
(3) Rhaid i'r landlord ystyried unrhyw sylwadau o'r fath sy'n dod i law erbyn y dyddiad hwnnw.
Y weithdrefn sydd i'w dilyn yn y gwrandawiad
6 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, mae'r weithdrefn mewn adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar i'w phenderfynu gan y person sy'n cynnal yr adolygiad.
(2) Mae gan y tenant hawl—
(a) i gael ei wrando ac i gael person arall gydag ef neu ei gael ei gynrychioli gan berson arall;
(b) i alw personau i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad; ac
(c) i ofyn cwestiynau i unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad.
(3) Mae unrhyw gynrychiolydd y tenant i gael yr un hawliau a phwerau â'r rhai sydd gan y tenant o dan y Rheoliadau hyn.
Absenoldeb tenant neu gynrychiolydd o wrandawiad
7 
Pan fo'r landlord wedi rhoi hysbysiad yn unol â rheoliad 3 am adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar ac nad yw'r tenant na chynrychiolydd y tenant yn bresennol ar y dyddiad hwnnw, ac ar yr amser ac yn y lle yr hysbyswyd amdanynt, caiff y person sy'n cynnal yr adolygiad—
(a) bwrw ymlaen â'r gwrandawiad; neu
(b) llunio, gyda golwg ar ddull cynnal yr adolygiad, unrhyw gyfarwyddiadau y bydd y person hwnnw yn barnu eu bod yn briodol, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys unrhyw esboniad sy'n cael ei gynnig am yr absenoldeb.
Gohirio gwrandawiad
8 

(1) Pan fo'r landlord wedi rhoi hysbysiad yn unol â rheoliad 3 am adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar a bod y tenant yn gwneud cais am ei ohirio, caiff y landlord dderbyn neu wrthod y cais fel y gwêl yn dda.
(2) Os gohirir y gwrandawiad, rhaid i'r landlord roi hysbysiad rhesymol i'r tenant am ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad a ailgynullir.
Torri yn ystod gwrandawiad
9 

(1) Caiff y person sy'n cynnal adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar dorri ar y gwrandawiad hwnnw ar unrhyw bryd o'i ben a'i bastwn ei hun, ar gais y tenant, cynrychiolydd y tenant neu'r landlord.
(2) Os bydd yr adolygiad hwnnw'n cael ei gynnal gan fwy nag un person a bod unrhyw un o'r personau hynny'n absennol, rhaid torri ar y gwrandawiad, oni bai bod y tenant neu gynrychiolydd y tenant yn cytuno fel arall.
(3) Os torrir ar yr adolygiad hwnnw ar ôl gwrandawiad rhannol ac nad y person a gynhaliodd y gwrandawiad y torrwyd arno gynt yw'r person sy'n cynnal y gwrandawiad a ailgynullwyd, yna rhaid cynnal ailwrandawiad cyflawn oni fydd y tenant neu gynrychiolydd y tenant yn cytuno fel arall.
(4) Os torrir ar y gwrandawiad, rhaid i'r landlord roi hysbysiad rhesymol i'r tenant am ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad a ailgynullir.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Tachwedd 2006