
2006 Rhif 2980 (Cy.271)
AER GLÅN, CYMRU
Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 14 Tachwedd 2006
Yn dod i rym 24 Tachwedd 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), ac yntau wedi'i fodloni y gall y dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwydd nad tanwydd awdurdodedig mohono a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993 ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 24 Tachwedd 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio rhag adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993
2 
Mae'r dosbarthau ar leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sy'n gwahardd gollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Tachwedd 2006
YR ATODLEN
DOSBARTHAU AR LEOEDD TÅN SY'N ESEMPT
Erthygl 2


Dosbarthau ar Leoedd Tân Amodau
Modelau RRK 22 — 49 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 49kW) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria. 
1 
Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.
2 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.
Modelau RRK 80 — 175 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 75 — 149 kW) ynghyd â modelau seiclon ZA 80 — 175 a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria. 
1 
Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.
2 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.
Model RRK 130 — 250 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 185 — 230 kW) gyda seiclon (model math ZA) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria. 
1 
Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.
2 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.
Model RRK 200 — 350 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 250 — 300 kW) gyda seiclon (model math ZA) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria. 
1 
Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.
2 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.
Model RRK 400 — 600 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 350 — 500 kW) gyda seiclon (model math ZA) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria. 
1 
Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.
2 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.
Model RRK 640 — 850 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 650 — 840 kW) gyda seiclon (model math ZA) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria. 
1 
Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.
2 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.
Model RRK 1000 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 1200 kW) gydag amlseiclon (model MZA) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria. 
1 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i gadw a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.
2 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.
Y Dunsley Yorkshire Woodburning Stove and Boiler a wneir gan Dunsley Heat Limited. 
1 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i gadw a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 4 Rhagfyr 2004 a'r cyfeirnod D13W ynghyd â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 4 Hydref 2004 a'r cyfeirnod GHD/DUN4B/1.
2 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pren sych heb ei drin mohono.
Boileri Math USV sy'n llosgi pelenni a sglodion pren, modelau Rhif USV-15, 25, 30, 40, 50, 60, 80 a 100, a wneir gan KWB — Kraft und Wärme aus Biomasse Gesellschaft mit beschränkter Haftung (GmbH) o Industriestrasse 235, A-8321 St. Margarethen an der Raab, Awstria. 
1 
Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad Awst 2003 a'r cyfeirnod BA-USV 0803.
2 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono fel y disgrifir yng nghyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu neu ddymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.
Boileri Math USP sy'n llosgi pelenni pren, modelau Rhif USP-10, 15, 20, 25 a 30, a wneir gan KWB — Kraft und Wärme aus Biomasse Gesellschaft mit beschränkter Haftung (GmbH) o Industriestrasse 235, A-8321 St. Margarethen an der Raab, Awstria. 
1 
Rhaid I'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 28 Gorffennaf 2003 a'r cyfeirnod BA-USP 0703.
2 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni pren mohono fel y disgrifir yng nghyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu neu ddymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.