
2006 Rhif 2961 (Cy.267)
HADAU, CYMRU
Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006
Wedi'u gwneud 7 Tachwedd 2006
Yn dod i rym 16 Tachwedd 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 16(1) ac (1A)(e) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo.
Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno mae wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo y bydd y Rheoliadau canlynol yn ymwneud â hwy:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Tachwedd 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Ffioedd
2 

(1) Rhaid i geisydd —
(a) am ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006, neu
(b) am awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny,
dalu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch unrhyw un o'i swyddogaethau o dan Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 neu i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i gyflawni'r cyfryw swyddogaethau ar ei ran y ffioedd a restrir yn yr Atodlen ynglŷn â'r cyfryw swyddogaethau.
(2) Mae'r ffi a bennir yn yr Atodlen fel y ffi sy'n daladwy am bob swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir ar gyfer y swyddogaeth honno.
Dirymu
3 
Dirymir Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Tachwedd 2006
YR ATODLEN
Rheoliad 2



Y Swyddogaeth Ffi (Ffi flaenorol) Lleiafswm y ffi (Lleiafswm blaenorol y ffi)
Arolygu cnydau sy'n tyfu a darparu seliau a labeli o ran ceisiadau —
am ardystiad fel tatws hadyd cyn-sylfaenol £81.00* (£81.00) N/A (N/A)
am ardystiad fel tatws hadyd sylfaenol, a ddosbarthir yn—    
Super Elite 1, Super Elite 2 neu Super Elite 3 £40.50 (£40.50) £81.00 (£81.00)
Elite 1, Elite 2 neu Elite 3 £40.50 (£40.50) £81.00 (£81.00)
A £38.50 (£38.50) £77.00 (£77.00)
am ardystiad fel tatws hadyd ardystiedig £35.00 (£35.00) £70.00 (£70.00)
am awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 £81.00* (£81.00) N/A (N/A)
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Hyd at ddau arolygiad £12.00 (£12.00) £24.00 (£24.00)
Y trydydd arolygiad a phob arolygiad wedyn £81.00* (£81.00) N/A (N/A)


