
2006 Rhif 2934 (Cy.266)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 7 Tachwedd 2006
Yn dod i rym 24 Ionawr 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 71 a 104(3) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru, ac wedi ymgynghori â'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb y Cyngor 98/34/EC, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 24 Ionawr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) 1992 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:
(2) Yn lle rheoliad 2(c), rhodder —“
(c) “the Code” means the code of practice entitled “Specification for the Reinstatement of Openings in Highways” dated 7 November 2006, and approved by the National Assembly for Wales on 7 November 2006 as revised and reissued from time to time;”.
(3) Yn lle rheoliad 2(e), rhodder —“
(e) “a road carrying more than 125 million standard axles” means a road so constructed as to be capable of carrying more than 125 million standard axles per annum.”.
(4) Yn rheoliad 3(3), yn lle'r geiriau “30 million standard axles” rhodder “125 million standard axles”.
(5) Yn y Tabl i reoliad 4(2)—
(a) Yn lle'r geiriau yng ngholofn 3 o eitem 2, rhodder—“
 Paragraphs S2.6.3 & S2.6.4”;
(b) Yn lle'r geiriau yng ngholofn 2 o eitem 7, rhodder—“
 S8 (Footways, Footpaths and Cycle Tracks)”;
(c) Yn lle'r geiriau yng ngholofn 2 o eitem 8, rhodder—“
 S9 (Verges and Unmade Ground)”; ac
(ch) Yn lle'r geiriau yng ngholofn 3 o eitem 10, rhodder—“
 Paragraph S12.4”.
(6) Yn y Tabl i reoliad 4(3)—
(a) Yn lle'r geiriau yng ngholofn 3 o eitem 2, rhodder—“
 Paragraphs S2.2.1, S2.3.1, S2.4.1, S2.4.3, S2.6.2.”;
(b) Yn lle'r geiriau yng ngholofn 2 o eitem 7, rhodder—“
 S8 (Footways, Footpaths and Cycle Tracks)”;
(c) Yn lle'r geiriau yng ngholofn 2 o eitem 8, rhodder—“
 S9 (Verges and Unmade Ground)”; ac
(ch) Yn lle'r geiriau yng ngholofn 2 o eitem 9, rhodder—“
 S10 (Compaction Requirements)”.
(7) Yn rheoliad 7, yn lle'r geiriau “paragraphs 1.5,1.6.1 and 1.6.2”, rhodder “paragraphs S1.6 and S1.7”.
(8) Yn rheoliad 8, yn lle'r geiriau “paragraphs 1.6.1 and 1.6.2”, rhodder “paragraphs S1.7.1 and S1.7.2”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Tachwedd 2006