
2006 Rhif 2840 (Cy.256)
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 25 Hydref 2006
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 57(1), (3), (6) a (7) a 64(6) o Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Reoliadau 2004
2 
Diwygir Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004 fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3—
(i) ym mharagraff (1) hepgorer y geiriau “a os daw o fewn disgrifiad ym mharagraff (2);”;
(ii) hepgorer paragraff (2);
(b) yn rheoliad 5(1) hepgorer y geiriau o “sy'n dod o fewn” i “(2)(b) o'r rheoliad hwnnw”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Hydref 2006