
2006 Rhif 2832 (Cy.253)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006
Wedi'u gwneud 24 Hydref 2006
Yn dod i rym 31 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973 a gan adran 29(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cynnyrch planhigyn” yr un ystyr â “plant product” yn Erthygl 2(1)(b) o'r Gyfarwyddeb;
 mae i “gwiriad adnabod” yr un ystyr ag “identity check” yn Erthygl 13a(1)(b)(ii) o'r Gyfarwyddeb;
 mae i “gwiriad dogfennol” yr un ystyr â “documentary check” yn Erthygl 13a(1)(b)(i) o'r Gyfarwyddeb;
 mae i “gwiriad iechyd planhigion” yr un ystyr â “plant health check” yn Erthygl 13a(1)(b)(iii) o'r Gyfarwyddeb;
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ddyddiedig 8 Mai 2000 ar fesurau amddiffyn yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned, fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/35/EC;
 mae i “llwyth” yr un ystyr â “consignment” yn Erthygl 2(1)(p) o'r Gyfarwyddeb;
 ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 yng Nghymru;
 mae i “planhigyn” yr un ystyr â “plant” yn Erthygl 2(1)(a) o'r Gyfarwyddeb;
 mae i “planhigyn a fwriedir ar gyfer ei blannu” yr un ystyr â “plant intended for planting” yn Erthygl 2(1)(d) o'r Gyfarwyddeb; ac
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu diriogaeth ac eithrio un o fewn y Gymuned Ewropeaidd.
Llwythi y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 sydd wedi'u glanio yng Nghymru o drydedd wlad, ac sydd:
(a) wedi'u rhestru yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb; neu
(b) yn hadau Solonaceae p'un a ydynt wedi'u rhestru yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb neu beidio.
Ffioedd
4 

(1) Rhaid i fewnforiwr dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol adeg mewnforio llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (2), y ffi a bennir—
(i) yn nhrydedd golofn Atodlen 1 am unrhyw lwyth ac eithrio llwyth o un math o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn y mae is-baragraff (a)(ii) yn gymwys iddo; neu
(ii) ym mhedwaredd golofn Atodlen 2 am lwyth o unrhyw un math o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen honno ac sy'n dod o wlad a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno; a
(b) y ffi a bennir am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod yn nhrydedd golofn Atodlen 3.
(2) Pan fo gwiriad iechyd planhigion yn cael ei gynnal ar lwyth ar gais mewnforiwr, neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) am y llwyth hwnnw yw—
(a) y ffi a bennir ym mhedwaredd golofn Atodlen 1 os yw'r llwyth yn llwyth y mae paragraff (1)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b) y ffi a bennir ym mhumed golofn Atodlen 2 os yw'r llwyth yn llwyth y mae paragraff (1)(a)(ii) yn gymwys iddo.
Dirymu
5 
Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006 wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Hydref 2006
ATODLEN 1
FFIOEDD AROLYGU MEWNFORIO
Rheoliadau 3 a 4


Planhigyn, cynnyrch planhigyn neu beth arall Nifer Ffi Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau Fesul llwyth  
 — hyd at 10,000 o ran nifer £13.24 £19.86
 — am bob 1,000 o unedau ychwanegol £0.52 £0.78
 — uchafbris £105.92 £158.88
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio had) Fesul llwyth  
 — hyd at 1,000 o ran nifer £13.24 £19.86
 — am bob 100 o unedau ychwanegol £0.33 £0.49
 — uchafbris £105.92 £158.88
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu Fesul llwyth  
 — hyd at 200 kg o ran pwysau £13.24 £19.86
 — am bob 10 kg ychwanegol £0.12 £0.18
 — uchafbris £105.92 £158.88
Hadau, meinweoedd meithrin Fesul llwyth  
 — hyd at 100 kg o ran pwysau £5.67 £8.50
 — am bob 10 kg ychwanegol £0.13 £0.19
 — uchafbris £105.92 £158.88
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon Fesul llwyth  
 — hyd at 5,000 o ran nifer £13.24 £19.86
 — am bob 100 o unedau ychwanegol £0.13 £0.19
 — uchafbris £105.92 £158.88
Blodau wedi'u torri Fesul llwyth  
 — hyd at 20,000 o ran nifer £13.24 £19.86
 — am bob 1,000 o unedau ychwanegol £0.10 £0.15
 — uchafbris £105.92 £158.88
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi'u torri) Fesul llwyth  
 — hyd at 100 kg o ran pwysau £13.24 £19.86
 — am bob 100 kg y chwanegol £1.32 £1.98
 — uchafbris £105.92 £158.88
Coed Nadolig wedi'u torri Fesul llwyth  
 — hyd at 1,000 o ran nifer £13.24 £19.86
 — am bob 100 o unedau ychwanegol £1.32 £1.98
 — uchafbris £105.92 £158.88
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog Fesul llwyth  
 — hyd at 100 kg o ran pwysau £13.24 £19.86
 — am bob 10 kg ychwanegol £1.32 £1.98
 — uchafbris £105.92 £158.88
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) Fesul llwyth  
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau £13.24 £19.86
 — am bob 1,000 kg ychwanegol £0.52 £0.78
Cloron tatws Fesul lot £39.72 £59.58
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau  
 — am bob 25,000 kg ychwanegol £39.72 £59.58
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl Fesul llwyth  
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau £13.24 £19.86
 — am bob 1,000 kg ychwanegol £0.52 £0.78
 — uchafbris £105.92 £158.88
Grawn Fesul llwyth  
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau £13.24 £19.86
 — am bob 1,000 kg ychwanegol £0.52 £0.78
 — uchafbris £529.60 £794.40
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd Fesul llwyth £13.24 £19.86
ATODLEN 2
FFIOEDD AROLYGU MEWNFORIO (CYFRADDAU GOSTYNGOL)
Rheoliad 4


Genws Nifer Gwlad tarddiad Ffi Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd)
Blodau wedi'u torri
Aster Fesul llwyth   
 — hyd at 20,000 o ran nifer Zimbabwe £3.31 £4.96
 — am bob 1,000 o unedau ychwanegol Zimbabwe £0.02 £0.03
 — uchafbris Zimbabwe £26.48 £39.72
Dianthus Fesul llwyth   
 — hyd at 20,000 o ran nifer Colombia £0.40 £0.60
  Ecuador £1.98 £2.97
  Israel, Moroco, Twrci £3.31 £4.96
 — am bob 1,000 o unedau ychwanegol Colombia £0.003 £0.004
  Ecuador £0.01 £0.015
  Israel, Moroco, Twrci £0.02 £0.03
 — uchafbris Colombia £3.17 £4.75
  Ecuador £15.88 £23.82
  Israel, Moroco, Twrci £26.48 £39.72
Rosa Fesul llwyth   
 — hyd at 20,000 o ran nifer Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe £0.66 £0.99
  Colombia, Israel, Zambia £1.32 £1.98
  Tanzania, Ethiopia £3.31 £4.96
  India £6.62 £9.93
 — am bob 1,000 o unedau ychwanegol Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe £0.005 £0.007
  Colombia, Israel, Zambia £0.01 £0.015
  Ethiopia, Tanzania £0.02 £0.03
  India £0.05 £0.07
 — uchafbris Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe £5.29 £7.94
  Colombia, Israel, Zambia £10.59 £15.89
  Ethiopia, Tanzania £26.48 £39.72
  India £52.96 £79.44
Ffrwythau
Malus Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau Chile, De Affrica £1.32 £1.98
  Ariannin, Seland Newydd, UDA £1.98 £2.97
  Brasil £3.31 £4.96
  Tsieina £6.62 £9.93
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Chile, De Affrica £0.05 £0.07
  Ariannin, Seland Newydd, UDA £0.07 £0.10
  Brasil £0.13 £0.19
  Tsieina £0.26 £0.39
Mangifera Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau Brasil £1.32 £1.98
  Periw, De Affrica £6.62 £9.93
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Brasil £0.05 £0.07
  Periw, De Affrica £0.26 £0.39
Prunus Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau Chile, De Affrica, Twrci £1.32 £1.98
  Ariannin £1.98 £2.97
  UDA £4.63 £6.94
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Chile, De Affrica, Twrci £0.05 £0.07
  Ariannin £0.07 £0.10
  UDA £0.18 £0.27
Pyrus Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau De Affrica £1.32 £1.98
  Ariannin £1.98 £2.97
  Chile £3.31 £4.96
  Tsieina £6.62 £9.93
 — am bob 1,000 kg ychwanegol De Affrica £0.05 £0.07
  Ariannin £0.07 £0.10
  Chile £0.13 £0.19
  Tsieina £0.26 £0.39
Citrus Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau Moroco £0.66 £0.99
  Twrci £0.92 £1.38
  UDA £1.32 £1.98
  Israel, Mecsico, Uruguay £1.98 £2.97
  Yr Aifft £3.31 £4.96
  Periw, Zimbabwe £9.93 £14.89
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Moroco £0.02 £0.03
  Twrci £0.03 £0.04
  UDA £0.05 £0.07
  Israel, Mecsico, Uruguay £0.07 £0.10
  Yr Aifft £0.13 £0.19
  Periw, Zimbabwe £0.39 £0.58
Fort- unella Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau De Affrica £9.93 £14.89
  Israel £6.62 £9.93
 — am bob 1,000 kg ychwanegol De Affrica £0.39 £0.58
  Israel £0.26 £0.39
Mom- ordica Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau Suriname £6.62 £9.93
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Suriname £0.26 £0.39
Passiflora Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau Kenya £1.32 £1.98
  Colombia, £1.98 £2.97
  Zimbabwe £4.63 £6.94
  De Affrica £9.93 £14.89
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Kenya £0.05 £0.07
  Colombia £0.07 £0.10
  Zimbabwe £0.18 £0.27
  De Affrica £0.39 £0.58
Llysiau
Solanum melon-gena Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o ran pwysau Twrci £9.93 £14.89
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Twrci £0.39 £0.58
Pan fo cyfanswm unrhyw ffi yn swm sy'n llai na £0.01, nid yw'r swm hwnnw wedi'i gynnwys.
ATODLEN 3
FFIOEDD AROLYGU MEWNFORIO AR GYFER GWIRIADAU DOGFENNOL A GWIRIADAU ADNABOD
Rheoliad 4(1)


Dull gwirio Nifer Ffi
Gwiriad dogfennol Fesul llwyth £5.29
Gwiriad adnabod Fesul llwyth 
 — hyd at faintioli llwyth tryc, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faintioli cyffelyb £5.29
 — mwy na'r maintioli uchod £10.58