
2006 Rhif 2830 (Cy.251)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Dirymu) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 24 Hydref 2006
Yn dod i rym 27 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
O ran y Rheoliadau hyn—
(a) eu henw yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Dirymu) (Cymru) 2006;
(b) deuant i rym ar 27 Hydref 2006; ac
(c) maent yn gymwys o ran Cymru.
Dirymiadau
2 
Dirymir yr offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Hydref 2006
YR ATODLEN
Y Rheoliadau a Ddirymwyd
Rheoliad 2


Enw O.S. Rhif 
The Food (Peanuts from China) (Emergency Control) (Wales) (No.2) Regulations 2002 2002/2295 (Cy.224)
Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2003 2003/2299 (Cy.229)
The Food (Figs, Hazelnuts and Pistachios from Turkey) (Emergency Control) (Amendment) (Wales) Regulations 2002 2002/1726 (Cy.161)
The Food (Figs, Hazelnuts and Pistachios from Turkey) (Emergency Control) (Wales) (No.2) Regulations 2002. 2002/2296 (Cy.225)
Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2003 2003/2292 (Cy.228)
Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 2003/2254 (Cy.224)
Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 2003/2288 (Cy.227)
Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005 2005/257 (Cy.23)
Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 2003/2910 (Cy.276)