
2006 Rhif 2828 (Cy.250)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth Ar Gyfer Cymorth I Fyfyrwyr I Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 24 Hydref 2006
Yn dod i rym 27 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 45 a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth ar Gyfer Cymorth i Fyfyrwyr i Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 27 Hydref 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongliad
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod cymorth i fyfyrwyr” (“student support authority”) yw—
(a) Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b) unrhyw awdurdod sy'n cwympo o fewn adran 45(7)(e) o Ddeddf 2004; ac
(c) unrhyw berson sy'n cwympo o fewn adran 45(7)(f) o Ddeddf 2004;
 ystyr “cais am gymorth i fyfyrwyr” (“student support application”) yw cais am gymorth sy'n daladwy o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr am flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007;
 ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) yw person sy'n cwympo o fewn adran 45(2)(a) o Ddeddf 2004;
 ystyr “cynllun cymorth i fyfyrwyr” (“student support scheme”) yw darpariaethau'r rheoliadau o dan adran 22 o Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “Deddf 2004” (“2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004;
 ystyr “gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr” (“student support information”), mewn perthynas ag awdurdod cymorth i fyfyrwyr, yw unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod cymorth i fyfyrwyr yn ei dal mewn cysylltiad â, neu o ganlyniad i, arfer unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â gweithredu'r cynllun cymorth i fyfyrwyr;
 ystyr “noddwr yr ymgeisydd” (“applicant’s sponsor”) yw rhiant ymgeisydd, partner ymgeisydd neu bartner rhiant ymgeisydd y mae'n ofynnol iddo o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr ddarparu gwybodaeth mewn cysylltiad â chais yr ymgeisydd am gymorth i fyfyrwyr; ac
 ystyr “ymgeisydd” (“applicant”) yw person sy'n gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr.
Cyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr
3 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, caiff awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 5 i gorff llywodraethu at y dibenion a ragnodir ym mharagraff (2).
(2) Y dibenion a ragnodir yw'r dibenion o gynorthwyo'r corff llywodraethu—
(a) i benderfynu a yw'r ymgeisydd yn gymwys ar gyfer bwrsari (neu gymorth ariannol arall) sy'n cael ei gynnig gan y corff hwnnw ac os yw, swm y bwrsari (neu'r cymorth ariannol arall) sy'n daladwy i'r ymgeisydd; a
(b) i dalu i'r ymgeisydd swm y bwrsari (neu'r cymorth ariannol arall) y mae'r corff llywodraethu wedi penderfynu sy'n daladwy iddo.
Gwybodaeth ragnodedig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr i'w chyflenwi gyda chydsyniad yn unig
4 

(1) Ni chaiff awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 5(a) neu (c) heb gydsyniad yr ymgeisydd.
(2) Ni chaiff awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 5(b) heb gydsyniad noddwr yr ymgeisydd.
Gwybodaeth ragnodedig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr
5 
Mae gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yn wybodaeth o'r disgrifiad a ragnodir os—
(a) yw'n wybodaeth a gyflenwyd i awdurdod cymorth i fyfyrwyr gan yr ymgeisydd mewn cysylltiad â'i gais am gymorth i fyfyrwyr;
(b) yw'n wybodaeth a gyflenwir i awdurdod cymorth i fyfyrwyr gan noddwr yr ymgeisydd mewn cysylltiad â chais yr ymgeisydd am gymorth i fyfyrwyr;
(c) yw'n wybodaeth sy'n ymwneud â—
(i) statws yr ymgeisydd fel myfyriwr cymwys, fel myfyriwr cymwys rhan-amser neu fel myfyriwr cymwys ôl-raddedig at ddibenion y cynllun cymorth i fyfyrwyr;
(ii) cymhwyster yr ymgeisydd ar gyfer cymorth ariannol sy'n daladwy o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr;
(iii) cyfrifo swm y cymorth ariannol sy'n daladwy i'r ymgeisydd o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr; neu
(iv) swm y cymorth ariannol sy'n daladwy i'r ymgeisydd o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Hydref 2006