
2006 Rhif 2826 (Cy.249) (C.97)
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 25 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 99(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2006.
(2) Mae darpariaethau a ddaw i rym o dan y gorchymyn hwn yn dod i rym yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004.
Y Diwrnod penodedig
2 

(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) isod i rym ar 26 Hydref 2006.
(2) Dyma'r darpariaethau—
(a) adrannau 5(4), 5(5) ac adran 10;
(b) adrannau 16 i 31;
(c) adrannau 72 i 93;
(ch) adrannau 94, 95 a 96;
(d) adran 98 cyn belled ag y mae'n gymwys i Ran 2 o Atodlen 12 (ac o ganlyniad Rhan 2 o Atodlen 12).
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Hydref 2006