
2006 Rhif 2823 (Cy.246)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Eithriadau a Gofynion Rhagnodedig) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 25 Hydref 2006
Yn dod i rym 26 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 134(5)(a) ac (c) a (6) o Ddeddf Tai 2004, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Eithriadau a Gofynion Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 26 Hydref 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys yng Nghymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004.
Eithriadau rhagnodedig
3 
At ddibenion adran 134(1)(b) o'r Ddeddf mae annedd yn dod o dan eithriad rhagnodedig —
(a) os yw wedi bod yn feddianedig yn unig neu'n bennaf gan y perchennog perthnasol a'i bod yn gyfan gwbl anfeddianedig am fod y perchennog perthnasol —
(i) yn preswylio yn rhywle arall dros dro;
(ii) yn absennol o'r annedd er mwyn iddo gael gofal personol oherwydd henaint, anabledd, afiechyd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffur yn y gorffennol neu'r presennol neu anhwylder meddyliol yn y gorffennol neu'r presennol;
(iii) yn absennol o'r annedd er mwyn darparu gofal personol, neu ei ddarparu'n well, i berson y mae arno angen y gofal hwnnw oherwydd henaint, anabledd, afiechyd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffur yn y gorffennol neu'r presennol neu anhwylder meddyliol yn y gorffennol neu'r presennol; neu
(iv) yn aelod o'r lluoedd arfog sydd ar wasanaeth ac yn absennol o'r annedd o ganlyniad i wasanaeth o'r fath.
(b) os yw'n cael ei defnyddio fel cartref gwyliau (p'un a yw'n cael ei gosod fel cartref o'r fath ar sail fasnachol) neu os yw wedi'i meddiannu fel arall gan y perchennog perthnasol neu westeion y perchennog perthnasol ar sail dros dro o bryd i'w gilydd;
(c) os yw'n wirioneddol ar y farchnad i'w gwerthu neu i'w gosod;
(ch) os yw wedi'i chynnwys mewn daliad amaethyddol o fewn ystyr “agricultural holding” yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 neu'n denantiaeth busnes fferm o fewn ystyr “farm business tenancy” yn Neddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995;
(d) os yw wedi'i meddiannu fel arfer gan un o gyflogeion y perchennog perthnasol mewn cysylltiad â chyflawni dyletswyddau'r cyflogai o dan delerau contract cyflogi'r cyflogai;
(dd) os yw ar gael i'w meddiannu gan weinidog crefydd fel preswylfa i gyflawni dyletswyddau swydd gweinidog crefydd ohoni;
(e) os yw'n ddarostyngedig i orchymyn llys yn rhewi eiddo'r perchennog perthnasol;
(f) os yw'n cael ei atal rhag cael ei meddiannu o ganlyniad i ymchwiliad troseddol neu achos troseddol;
(ff) os yw wedi'i morgeisio, pan fo'r morgeisai, yn hawl y morgais, wedi cymryd meddiant o'r annedd a bod yr annedd yn ei feddiant; neu
(g) os yw'r person a oedd yn berchennog perthnasol arno wedi marw a bod chwe mis heb fynd heibio ers cael grant cynrychiolaeth ar ei gyfer.
Gofynion rhagnodedig
4 

(1) At ddibenion adran 134(2)(e) o'r Ddeddf mae'r gofynion rhagnodedig y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio â hwy fel a ganlyn —
(a) bod rhaid iddo wneud ymdrech resymol i gael cadarnhad gan y perchennog perthnasol a yw hwnnw'n credu bod unrhyw un o'r eithriadau a gynhwysir yn erthygl 3 yn gymwys i'r annedd;
(b) bod rhaid iddo roi i'r tribiwnlys eiddo preswyl —
(i) manylion am yr ymdrech y mae wedi'i gwneud i hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud gorchymyn rheoli anheddau gwag interim ar gyfer annedd y perchennog perthnasol, fel sy'n ofynnol o dan adran 133(3)(a) o'r Ddeddf;
(ii) manylion am yr ymholiadau y maent wedi'u gwneud i ganfod pa gamau (os o gwbl) y mae'r perchennog perthnasol yn eu cymryd, neu'n bwriadu eu cymryd, i sicrhau bod yr annedd yn cael ei meddiannu, fel sy'n ofynnol o dan adran 133(3)(b) o'r Ddeddf;
(iii) manylion am unrhyw gyngor a chymorth y maent wedi'u rhoi i'r perchennog perthnasol gyda'r bwriad bod y perchennog perthnasol yn sicrhau bod yr annedd yn cael ei meddiannu;
(iv) yr holl wybodaeth sydd ganddynt sy'n awgrymu y gall yr annedd ddod o dan un o'r eithriadau a ddisgrifiwyd yn erthygl 3, p'un a ddaeth yr wybodaeth honno ar gael drwy ymholiadau'r awdurdod ei hun neu oherwydd sylwadau a gyflwynwyd iddo gan y perchennog perthnasol; a
(v) dosbarthiad yr annedd at ddibenion treth gyngor o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992; ac
(c) pan fo'r perchennog perthnasol —
(i) wedi ymgymryd neu wrthi'n ymgymryd â gwaith trwsio, gwaith cynnal a chadw neu waith gwella; neu
(ii) wedi gwneud cais i awdurdod cynllunio lleol neu awdurdod arall am ganiatâd i wneud newidiadau i adeiladwaith yr annedd neu ychwanegiadau ati ac yn aros am benderfyniad awdurdod perthnasol ar y cais,
rhaid i awdurdod tai lleol roi i'r tribiwnlys eiddo preswyl resymau pam y mae'n credu bod angen gorchymyn rheoli anheddau gwag i sicrhau meddiannaeth ar yr annedd.
(2) At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), awdurdod perthnasol yw —
(a) yr awdurdod y mae'r perchennog perthnasol wedi gwneud y cais iddo; neu,
(b) pan fo'r awdurdod hwnnw wedi gwneud penderfyniad y mae'r perchennog perthnasol neu berson arall wedi apelio yn ei erbyn, y person neu'r corff sy'n penderfynu'r apêl.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Hydref 2006