
2006 Rhif 2822 (Cy.245)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 25 Hydref 2006
Yn dod i rym 26 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 145 o Ddeddf Tai 2004, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar y 26 Hydref 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
(a) ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;
(b) ystyr “gorchymyn” (“order”) yw
(i) gorchymyn rheoli interim;
(ii) gorchymyn rheoli terfynol;
(iii) GRhAG interim; neu
(iv) GRhAG terfynol;
(c) ystyr “mangre” (“premises”) yw tŷ( y mae Pennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf yn gymwys iddo neu annedd y mae Pennod 2 o Ran 4 o'r Ddeddf yn gymwys iddi; ac
(ch) ystyr “y person perthnasol” (“the relevant person”), mewn perthynas â les mangre (neu ran o fangre), yw'r person (ac eithrio, yn ôl y digwydd, adran 107(5) neu 116(5) o'r Ddeddf, neu baragraff 2(6) neu 10(6) o Atodlen 7 iddi) sy'n lesddeiliad o dan y les.
Darpariaethau atodol
3 

(1) Os yw awdurdod tai lleol, o dan —
(a) adran 107 (5) neu 116(5) o'r Ddeddf; neu
(b) paragraff 2(6) neu 10(6) o Atodlen 7 i'r Ddeddf,
i'w drin fel lesddeiliad mangre (neu ran o fangre) o dan les, mae'r paragraffau a ganlyn yn gymwys.
(2) Cyn gynted ag y gwneir gorchymyn rhaid i'r awdurdod tai lleol sy'n gwneud y gorchymyn gyflwyno i lesydd uniongyrchol y person perthnasol (“y lesydd”) hysbysiad yn cynnwys y manylion a ganlyn —
(a) y math o orchymyn drwy gyfeirio at ddarpariaeth berthnasol y Ddeddf y mae'r gorchymyn wedi'i wneud oddi tani;
(b) y dyddiad y daw'r gorchymyn i rym;
(c) crynodeb o'r effaith a gaiff y gorchymyn ar ddilysrwydd y les, drwy gyfeirio at y ddarpariaeth berthnasol yn y Ddeddf; ac
(ch) enw a chyfeiriad yr awdurdod tai lleol ac unrhyw berson a awdurdodir i dderbyn ar eu rhan unrhyw alwad yn y dyfodol am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sy'n ddyledus, neu unrhyw hysbysiadau neu ddogfennau eraill mewn cysylltiad â'r fangre.
(3) O'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym nid yw'r awdurdod tai lleol na'r person perthnasol i fod yn atebol am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sy'n ddyledus o dan y les, p'un a ydynt yn ddyledus cyn neu ar ôl dyddiad y gorchymyn —
(a) os yw'r hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi'i gyflwyno i'r lesydd; a
(b) os yw'r lesydd yn methu ag anfon at yr awdurdod tai lleol ac unrhyw berson a awdurdodir yn unol â pharagraff 3(2)(ch) i alw am y cyfryw daliad.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff 3(3) o'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym —
(a) mae'r awdurdod tai lleol yn atebol am dalu unrhyw rent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill y gelwir am iddynt eu talu ac sy'n dod yn ddyledus o dan y les mewn cysylltiad â chyfnod ar ôl y cyfryw ddyddiad;
(b) caiff awdurdod tai lleol dalu unrhyw rent, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sy'n parhau'n ddyledus mewn cysylltiad â chyfnod cyn y cyfryw ddyddiad;
(c) caiff awdurdod tai lleol gwestiynu pa mor rhesymol yw unrhyw alwadau am y cyfryw daliadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) neu (b), p'un ai ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran y person perthnasol; ac
(ch) rhaid i awdurdod tai lleol anfon copi o unrhyw alwad am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill, neu unrhyw hysbysiad arall neu ddogfen arall y maent yn ei dderbyn neu ei derbyn gan y lesydd, at y person perthnasol (os gwyddys ble mae'r person perthnasol) a hynny o fewn 10 niwrnod i'r alwad ddod i law.
(5) Os bydd y person perthnasol y mae copi o alwad am dalu, o hysbysiad neu o ddogfen arall o dan baragraff (4)(ch) yn dod i'w law, yn dymuno herio unrhyw fater a gaiff ei gynnwys ynddo neu ynddi, rhaid i'r awdurdod tai lleol ddarparu'r cyfryw wybodaeth a'r cyfryw gymorth ag y gall fod yn rhesymol i'r person perthnasol ofyn amdano neu amdani.
(6) Ni chaiff y person perthnasol ofyn i'r awdurdod tai lleol ohirio talu unrhyw rent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill y mae'n rhesymol i'r awdurdod tai lleol fod o'r farn eu bod yn ddyledus neu'n parhau'n ddyledus o dan y les, p'un a yw'r person perthnasol yn cwestiynu galwad am y cyfryw daliad ai peidio.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Hydref 2006