
2006 Rhif 2804 (Cy.243)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 17 Hydref 2006
Yn dod i rym 23 Hydref 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 75(1)(e) a 152(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Hydref 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2000” (“2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000; ac
 dehonglir “sector addysg uwch” (“higher education sector”) yng ngoleuni Pennod I o Ran II o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.
Addysg neu hyfforddiant a ragnodir
2 

(1) Rhagnodir yr addysg a'r hyfforddiant a ddisgrifir ym mharagraff (2) isod at ddibenion adran 75 o Ddeddf 2000 (cylch gwaith estynedig Prif Arolygydd Cymru).
(2) Yr addysg a'r hyfforddiant yw'r rhai a ddarperir gan neu ar ran sefydliad yn y sector addysg uwch yng Nghymru—
(a) at ddibenion galluogi personau i ddod yn weithwyr ieuenctid a chymunedol; neu
(b) fel hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymunedol;
i'r graddau nad yw addysg a hyfforddiant o'r fath yn dod o fewn is-baragraffau (a) i (d) o adran 75(1) o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2006