
2006 Rhif 2799 (Cy.238)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRUDIWYDIANT PYSGOD MÔR
Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 18 Hydref 2006
Yn dod i rym 20 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 15 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo, yn gwneud y Cynllun canlynol gyda chymeradwyaeth y Trysorlys:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 20 Hydref 2006.
(2) Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Cynllun hwn—
 ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;
 ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth i gais;
 mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—
(a) sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995,
(b) neu—
(i) sydd o dan berchenogaeth lwyr neu rannol personau sy'n gymwys i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno, ond
(ii) nad yw'n gwch sydd, yn unig o ganlyniad i gymhwyso iddo adran 1(1)(c) o'r Ddeddf honno yn rhinwedd ei gofrestru o dan ddeddf unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, yn cyfrif fel llong Brydeinig at ddibenion y Ddeddf honno;ac y mae ei borthladd gweinyddu yng Nghymru ar y dyddiad cymhwyso;
 ystyr “darparwr y Cynulliad” (“the Assembly provider”) yw darparwr a gosodwr dyfeisiau olrhain drwy loeren a ddewisir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliad;
 mae i “dyfais olrhain drwy loeren” yr ystyr sydd i “satellite-tracking device” yn y Rheoliad;
 ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) mewn perthynas â chwch pysgota, yw ei berchennog, ei siartrwr (os oes un), neu ei feistr neu gynrychiolydd unrhyw un ohonynt;
 ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir o ran cwch pysgota o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;
 ystyr “y Rheoliad”(“the Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2244/2003 sy'n gosod darpariaethau manwl ynghylch Systemau Monitro Llongau ar sail lloeren; ac
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw swyddog a awdurdodir yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Cynllun hwn.
(2) Mae unrhyw rwymedigaeth sydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yn rhwymedigaeth i sicrhau bod y deunydd ar gael mewn dull a fydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ei gwneud yn rhesymol debygol y bydd y deunydd yn cael ei weld gan y rhai y gallai'r Cynllun hwn fod yn gymwys iddynt, ac mae cyhoeddi'r deunydd ymlaen llaw a chyn i'r Cynllun ddod i rym i'w drin at ddibenion y Cynllun hwn fel pe bai wedi'i gyflawni o dan y Cynllun.
Cymhwyster
3 

(1) Caiff unrhyw berson sy'n berson perthnasol mewn perthynas â chwch pysgota Cymreig y mae'r Rheoliad yn gymwys iddo wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am grant o ran y cwch hwnnw—
(a) os darparwyd ac y gosodwyd ar gyfer y person hwnnw gan ddarparwr y Cynulliad ddyfais olrhain drwy loeren; a
(b) os yw'r person yn ymgymryd â chydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ac sy'n ymwneud â'r Cynllun hwn.
(2) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi hysbysiad yn pennu darparwr y Cynulliad.
Ceisiadau
4 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o bryd i'w gilydd, gyhoeddi gwahoddiad am geisiadau a phan fydd yn gwneud hynny bydd darpariaethau canlynol y paragraff hwn yn gymwys.
(2) Rhaid i gais gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol fel a bennir yn y gwahoddiad ar neu cyn y dyddiad cau er mwyn i'r cais gael ei ystyried ar gyfer ei gymeradwyo ac eithrio pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon—
(a) bod amgylchiadau arbennig y ceisydd yn ei gwneud yn afresymol i ddisgwyl bod ei gais yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau, a
(b) bod y dyddiad erbyn pryd y cyflwynir y cais mor gynnar ag y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl, yn yr amgylchiadau hynny.
(3) Yn y Cynllun hwn ystyr “y dyddiad cau” (“the closing date”) yw'r cyfryw ddyddiad a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol pryd neu cyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wrthod unrhyw gais sy'n ymwneud â chwch pysgota os yw o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi'i newid ac mai prif ddiben ei newid oedd gwneud y cwch yn gymwys i gais gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef.
(5) Yn sgil rhoi cymeradwyaeth, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi grant sy'n gyfwerth â chyfanswm y canlynol, fel y cytunwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r ceisydd llwyddiannus—
(a) pris y ddyfais olrhain drwy loeren;
(b) costau gosod y ddyfais olrhain drwy loeren ar fwrdd y cwch y cyflwynwyd y cais mewn cysylltiad ag ef, ac
(c) pris gwarant tair blynedd ar gyfer y ddyfais olrhain drwy loeren,
a fydd yn daladwy yn unol â darpariaethau canlynol y Cynllun hwn.
(6) Rhaid i'r costau a bennir yn is-baragraff (5)(b) beidio â chynnwys unrhyw gost a dynnir yn gyfan gwbl neu'n rhannol mewn cysylltiad â chuddio'r ddyfais olrhain drwy loeren, y ceblau a'r gwifrau sy'n gysylltiedig â hi, neu unrhyw ddeunyddiau neu gyfarpar cysylltiedig arall, a hynny at ddibenion cosmetig.
Cymeradwyo ceisiadau
5 

(1) Hysbysir pob ceisydd llwyddiannus yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r gymeradwyaeth mewn cysylltiad â chwch pysgota'r ceisydd ac o unrhyw amodau y mae'n rhaid i'r ceisydd gydymffurfio â hwy.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), bydd cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol i'r cwch pysgota o dan sylw yn dod i ben os bydd y ceisydd llwyddiannus yn methu cydymffurfio ag unrhyw amodau a osodir o dan baragraff 3(1) neu baragraff 5(1).
(3) Os bydd y ceisydd llwyddiannus yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn amser rhesymol o resymau am y methiant hwnnw (neu, yn ôl y digwydd, resymau am rag-weld y methiant hwnnw) caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiwygio'r amodau a osodir o dan baragraff 3(1) neu baragraff 5(1).
Taliadau o dan y Cynllun
6 

(1) Cyn gynted ag y bydd y cais wedi'i gymeradwyo ac y bydd y ceisydd llwyddiannus wedi cydymffurfio â'r holl amodau a osodir o dan baragraffau 3(1) a 5(1), bydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn talu swm y pris y cytunwyd arno o dan baragraff 4(5) i'r ceisydd llwyddiannus.
(2) Ni wneir unrhyw daliad onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon bod y ddyfais olrhain drwy loeren wedi'i darparu ac yr ymgymerwyd â'i gosod yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gyda darparwr y Cynulliad.
Cymorth i swyddogion awdurdodedig
7 
Rhaid i unrhyw geisydd neu unrhyw gyflogai neu asiant unrhyw geisydd roi i swyddog awdurdodedig y cyfryw gymorth ag y byddo'n rhesymol i'r swyddog ofyn amdano er mwyn iddo arfer y pŵer a roddir i'r swyddog gan baragraff 8.
Pwerau swyddogion awdurdodedig
8 

(1) Caiff swyddog awdurdodedig, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog, arfer y pwerau a bennir yn y paragraff hwn at ddiben sicrhau —
(a) p'un a oes gan berson hawl i wneud cais o dan baragraff 3 ac i ba raddau y mae ganddo hawl;
(b) p'un a gydymffurfiwyd ag amodau o dan baragraffau 3(1) a 5(1) ac i ba raddau y cydymffurfiwyd â hwy;
(c) p'un a gafodd tramgwydd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ei gyflawni, neu a yw'n cael ei gyflawni, ac i ba raddau, ac
(ch) p'un a yw'r ddyfais olrhain drwy loeren yn gweithio ac i ba raddau.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre berthnasol.
(3) Dim ond pan fydd rhybudd rhesymol o'r bwriad i arfer y pŵer wedi'i roi i holl breswylwyr yr anhedd-dy hwnnw y caniateir arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (2) mewn perthynas â mangre a ddefnyddir fel anhedd-dy.
(4) Caiff unrhyw swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn unol ag is-baragraff (2) arolygu'r fangre honno ac unrhyw ddogfennau yn y fangre honno sy'n ddogfennau perthnasol, neu y mae'n rhesymol i swyddog fod o'r farn eu bod yn ddogfennau perthnasol.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y paragraff hwn fynd â'r cyfryw berson arall y mae'r swyddog o'r farn ei fod yn angenrheidiol gydag ef ac mae is-baragraffau (2), (4), (6) a (7) yn gymwys mewn perthynas â'r cyfryw berson arall pan fydd hwnnw'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y swyddog fel pe bai ef yn swyddog awdurdodedig.
(6) Caiff swyddog awdurdodedig—
(a) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n geisydd neu'n gyflogai neu'n asiant ceisydd gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol a chyflenwi'r cyfryw wybodaeth ychwanegol ag y byddo'n rhesymol i'r swyddog ofyn amdanynt neu amdani, sydd ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â'r cais;
(b) arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath ac, os cedwir y cyfryw ddogfennau drwy gyfrwng cyfrifiadur, gael mynd at unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau hynny i arolygu a gwirio eu gweithrediaeth;
(c) ei gwneud yn ofynnol i gopïau o unrhyw ddogfennau perthnasol, neu ddetholiadau ohonynt, gael eu cyflwyno, ac
(ch) arolygu unrhyw gyfarpar ar y cwch pysgota y gwnaed y cais mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys y ddyfais olrhain drwy loeren, a mynd â'r cyfarpar i ffwrdd i'w arolygu ymhellach.
(7) Ni fydd swyddog awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth i'r swyddog, yn honedig, arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y Cynllun hwn os yw'r llys sy'n gwrando'r cyfryw achos yn fodlon—
(a) bod y weithred wedi ei gwneud mewn modd didwyll;
(b) bod seiliau rhesymol dros ei gwneud, ac
(c) ei bod wedi ei gwneud gyda sgil a gofal rhesymol.
(8) Yn y paragraff hwn—
 ystyr “dogfennau perthnasol” (“relevant documents”) yw unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r cwch pysgota y gwnaed cais mewn cysylltiad ag ef,
 mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw gwch pysgota neu gyfrwng cludo arall, ac
 ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw'r cwch pysgota y gwnaed cais mewn cysylltiad ag ef ac unrhyw fangre lle y cedwir y dogfennau perthnasol neu lle y mae'n rhesymol i swyddog awdurdodedig fod o'r farn y byddo'r cyfryw ddogfennau'n cael eu cadw.
Dirymu cymeradwyaeth
9 

(1) Ar unrhyw adeg ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo cais o ran unrhyw gwch pysgota, os ymddengys iddo—
(a) na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu rai o'r amodau a osodir o dan baragraffau 3(1) a 5(1);
(b) bod person perthnasol, mewn perthynas â chwch pysgota—
(i) ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw un neu rai o ddarpariaethau'r Cynllun, wedi rhoi gwybodaeth neu wedi cyflwyno dogfen a'i fod yn gwybod bod yr wybodaeth neu'r ddogfen yn anwir mewn manylyn perthnasol, neu
(ii) wedi bod yn ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n anwir mewn manylyn perthnasol;
(c) bod y person perthnasol neu ei gyflogai neu ei asiant wedi methu cydymffurfio â pharagraff 7;
caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu'r gymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw ran o'r taliad mewn perthynas â'r cais.
(2) Os dirymir cymeradwyaeth o dan is-baragraff (1) ar ôl i unrhyw daliad gael ei wneud o dan y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill ar gais oddi wrth y ceisydd swm sy'n gyfwerth â'r cyfan neu ag unrhyw ran o'r cyfryw daliad.
Llog
10 

(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff 9(2), yn penderfynu adennill swm ar gais, caiff hefyd adennill llog ar y swm hwnnw ar sail ddyddiol ac ar gyfradd o 1% yn uwch na'r LIBOR am y cyfnod yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd y swm ac yn diwedd ar y diwrnod y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei adennill.
(2) Yn y paragraff hwn ystyr “LIBOR”, mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau, ac sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw, wedi'i thalgrynnu os bydd angen i ddau le degol.
(3) Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r LIBOR o dan sylw os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r LIBOR o dan sylw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Hydref 2006