
2006 Rhif 2797 (Cy.236) (C.93)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 17 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(1)(b), (2) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1978” (“the 1978 Act”) yw Deddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996;
 ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân 2005.
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar 27 Hydref 2006
2 
Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym ar 27 Hydref 2006—
(a) adran 11 (hysbysiad symud);
(b) adran 12 (gwaredu);
(c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 13 (canllawiau);
(ch) adran 15 (hysbysiad symud);
(d) adran 16 (gwaredu);
(dd) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 17 (canllawiau);
(e) adran 34 (tynnu placardiau a phosteri);
(f) at ddibenion amnewid adran 5 (ond gan eithrio adran 5(2)(d)) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989, adran 37 (pwerau gorfodi);
(ff) adran 50 (pŵer i'w gwneud yn ofynnol i berchennog tir symud gwastraff oddi yno);
(g) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 56 (gorchmynion rheoli cŵn: darpariaethau atodol);
(ng) adran 66 (“person priodol”);
(h) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 67 (rheoliadau a gorchmynion);
(i) adran 80 (gorchmynion a rheoliadau);
(j) adran 81 (dehongli);
(ll) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 83 (tramgwyddau sŵn: defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(m) adran 84 at ddibenion dwyn i rym paragraffau 2, 7(2)(a) a (3), 8(2) a 12(2), (5) a (6) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 (estyn Deddf Sŵn 1996 i gwmpasu mangreoedd trwyddedig etc.);
(n) adran 86 (gohirio dyletswydd i gyflwyno hysbysiad gostegu);
(o) adran 99 (trolïau siopa gadawedig a throlïau bagiau gadawedig);
(p) adran 100 (adran 99: darpariaeth drosiannol);
(ph) yn Rhan 1 (cerbydau) o Atodlen 5 (diddymiadau), y diddymiadau i Ddeddf 1978 a Deddf 1984.
Darpariaeth yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006 i rym
3 
I'r graddau nad yw eisoes mewn grym, mae adran 2 (gorchmynion gatio) yn dod i rym ar y dyddiad y mae Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006 yn dod i rym.
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 i rym
4 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosb Benodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 6 (pŵer i roi hysbysiadau cosb benodedig);
(b) adran 7 (pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);
(c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 8 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(ch) adran 9 (hysbysiadau cosb benodedig: materion atodol);
(d) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 10 (tramgwydd gadael cerbyd: hysbysiadau cosb benodedig);
(dd) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 19 (tramgwydd ysbwriel: hysbysiadau cosb benodedig);
(e) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 20 (hysbysiadau clirio ysbwriel);
(f) adran 21 (hysbysiadau rheoli ysbwriel ar y stryd);
(ff) adran 22 (methu â chydymffurfio â hysbysiad: hysbysiadau cosb benodedig);
(g) adran 23 (rheolaethau ar ddosbarthu deunydd printiedig yn ddi-dâl);
(ng) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 24 (hysbysiadau cosb benodedig: darpariaeth gyffredin);
(h) adran 25 (eithrio atebolrwydd);
(i) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 28 (hysbysiadau cosb benodedig: swm y gosb benodedig);
(j) adran 29 (hysbysiadau cosb benodedig: pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);
(l) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 30 (hysbysiadau cosb benodedig: swyddogion awdurdodedig);
(ll) adran 31 (estyn hysbysiadau gwaredu graffiti i gwmpasu gosod posteri yn anghyfreithlon);
(m) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 38 (methu â dangos awdurdod: hysbysiadau cosb benodedig);
(n) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 45 (methu â darparu dogfennau: hysbysiadau cosb benodedig);
(o) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 48 (tramgwyddau sy'n ymwneud â chynwysyddion gwastraff: hysbysiadau cosb benodedig);
(p) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 52 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(ph) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 59 (hysbysiadau cosb benodedig);
(r) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 60 (swm y cosbau penodedig);
(rh) adran 61 (pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad);
(s) adran 62 (swyddogion cymorth cymuned etc.);
(t) adran 69 (dynodi ardaloedd hysbysu o larwm);
(th) adran 70 (tynnu dynodiad yn ôl);
(u) adran 71 (hysbysu deiliaid allweddi a enwyd);
(w) adran 72 (enwi deiliaid allweddi);
(y) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 73 (tramgwyddau o dan adran 71: hysbysiadau cosb benodedig);
(a2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 74 (swm y gosb benodedig);
(b2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 75 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(c2) adran 76 (hysbysiadau cosb benodedig: pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);
(ch2) adran 77 (pŵer mynediad);
(d2) adran 78 (gwarant i fynd i mewn i fangre drwy rym);
(dd2) adran 79 (pwerau mynediad: darpariaethau atodol);
(e2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 82 (tramgwyddau sŵn: hysbysiadau cosb benodedig);
(f2) adran 84 (estyn Deddf Sŵn 1996 i fangreoedd trwyddedig etc) at ddibenion dwyn i rym y darpariaethau yn Atodlen 1 nad ydynt yn cael eu cychwyn gan erthygl 2(m);
(g2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 96 (defnyddio derbynebau cosb benodedig: awdurdodau haen uwch);
(ng2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 97 (defnyddio derbynebau cost benodedig: awdurdodau haen is);
(h2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 98 (adrannau 96 a 97: darpariaethau atodol);
(i2) Rhan 2 o Atodlen 5 (dirymiadau);
(l2) Rhan 9 o Atodlen 5 mewn perthynas â diddymu adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym
5 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 55 (pŵer i wneud gorchmynion rheoli cwn);
(b) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 57 (tir y mae Pennod 1 yn gymwys iddo);
(c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 58 (prif awdurdodau ac awdurdodau eilaidd);
(ch) adran 63 (pwerau sy'n gorgyffwrdd);
(d) adran 64 (is-ddeddfau);
(dd) adran 65 (Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996);
(e) Rhan 5 o Atodlen 5.
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym
6 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 101 (niwsans statudol: trychfilod);
(b) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 103(2)(a) a (4)(a) (adrannau 101 a 102: darpariaethau atodol).
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006 i rym
7 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006 i rym—
(a) adran 102 (niwsans statudol: goleuadau);
(b) adran 103 (adrannau 101 a 102: darpariaethau atodol) ac eithrio adran 103(2)(a) a (4)(a).
Darpariaethau trosiannol: Deddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978
8 

(1) Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1978 gan—
(a) adran 11 (sy'n diwygio adran 3 o Ddeddf 1978);
(b) adran 12 (sy'n diwygio adran 4 o Ddeddf 1978);
(c) adran 13 (sy'n mewnosod adran 4A (canllawiau) yn Neddf 1978),
o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 3 a 4 o Ddeddf 1978 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gerbyd y mae awdurdod lleol, a hynny cyn 27 Hydref 2006—
(a) wedi rhoi hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 3(2) o Ddeddf 1978; neu
(b) wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 3(5) o'r Ddeddf honno.
Darpariaethau trosiannol: Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
9 

(1) Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1984 gan—
(a) adran 15 (sy'n diwygio adran 99 o Ddeddf 1984);
(b) adran 16 (sy'n diwygio adran 101 o Ddeddf 1984);
(c) adran 12 (sy'n diwygio adran 103 o Ddeddf 1984),
o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 99, 101 a 103 o Ddeddf 1984 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gerbyd—
(a) sydd ar ffordd ac y mae awdurdod wedi rhoi hysbysiad mewn perthynas ag ef cyn 27 Hydref 2006 o dan adran 99(3) o Ddeddf 1984;
(b) y mae awdurdod wedi dodi hysbysiad arno cyn 27 October 2006 o dan adran 99(4) o'r Ddeddf honno.
Arbedion: Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996
10 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac er gwaethaf ei diddymu gan adran 65 o Ddeddf 2005 a Rhan 5 o Atodlen 5 iddi, mae Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw dir sy'n dir dynodedig yn union cyn y dyddiad y diddymir Deddf 1996 yn unol â rheoliad 5(e) o'r Gorchymyn hwn.
(2) Bydd unrhyw dir sy'n dir dynodedig yn union cyn diddymu Deddf 1996 gan erthygl 5(e) o'r Gorchymyn hwn yn peidio â bod yn dir dynodedig ar y dyddiad y daw'r diddymiad yn weithredol—
(a) i'r graddau y mae gorchymyn rheoli cŵn (p'un a yw'n ymwneud â baeddu tir gan gŵn) a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 2005 yn gymwys mewn perthynas â'r tir hwnnw;
(b) os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddirymu; neu
(c) os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddiwygio yn y fath fodd ag i leihau maint y tir dynodedig, i'r graddau y mae hwnnw wedi'i leihau.
(3) O ran effaith barhaol Deddf 1996—
(a) mae adran 88(2) i (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 4(2) a (3) o Ddeddf 1996, yn parhau i fod yn gymwys fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 19 o Ddeddf 2005 i adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 heb eu gwneud;
(b) er gwaethaf eu diddymu gan Ran 5 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, mae paragraff 1(2)(c) o Atodlen 4 a pharagraff 1(2)(b) o Atodlen 5 i Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002 yn parhau i fod yn effeithiol;
(c) er gwaethaf ei diddymu gan Ran 9 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, bydd adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn parhau i fod yn effeithiol fel petai is-adrannau (2)(a), (3)(a) ac (c) a (4) o'r adran honno wedi'u dileu.
(4) Yn yr erthygl hon—
 mae i “tir dynodedig” yr ystyr a roddir i “designated land” yn adran 2(1) o Ddeddf 1996; ac
 ystyr “gorchymyn dynodi” (“designation order”) yw gorchymyn a wneir o dan adran 2(1) o Ddeddf 1996.
Diwygio Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006
11 
Yn erthygl 5(1) o Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006 —
(a) ar ôl “adran 32” mewnosoder “(7) ac (8)”; a
(b) hepgorer “a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2006