
2006 Rhif 2796 (Cy.235)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 17 Hydref 2006
Yn dod i rym 27 Hydref 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 27 Hydref 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “Atodlen 1” neu “Atodlen 2” yn gyfeiriad at yr Atodlen briodol sy'n gysylltiedig â'r Gorchymyn hwn.
(4) Yn y Gorchymyn hwn:
(a) ystyr “Rheoliad y Cyngor 1251/99” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1251/1999 sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003;
(b) ystyr “Rheoliad y Cyngor 1254/99” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1455/2001; Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1512/2001; Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2345/2001; y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt; Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 a'r diwygiadau a wnaed gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 i Erthygl 10(1) ac Atodiadau 1 a 2 o Reoliad y Cyngor 1254/99;
(c) ystyr Rheoliad y Cyngor 2529/01” (“Council Regulation 2529/01”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2529/2001 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt;
(ch) mae “blwyddyn farchnata” i'w dehongli yn unol â “marketing year” yn Rheoliad y Cyngor 1251/1999.
Asesiad o gapasiti cynhyrchiol tir
2 

(1) Mae'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu capasiti cynhyrchiol uned o dir amaethyddol sydd wedi'i lleoli yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” yn is-baragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Am y cyfnod o 12 mis gan ddechrau ar 12 Medi 2004, pan ellir defnyddio'r tir o dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o Atodlen 1, yna—
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn perthnasol i Atodlen 1 fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3) Am y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2004, pan fo tir y gellid ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu pan fo wedi'i ddynodi'n neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o Atodlen 1, yna —
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4) Am y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2005, pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yna—
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 2 gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn perthnasol i Atodlen 2 fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(5) Am y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2005, pan fo tir y gellid ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu pan fo wedi'i ddynodi'n neilltir yn y flwyddyn farchnata 2004/2005, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yna—
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o Atodlen 2 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2004 drwy hyn wedi'i ddirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2006
ATODLEN L
UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Erthyglau 1(2), 2(3) a 2(3)


Colofn 1  Colofn 2 Colofn 3
Defnydd ffermio  Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel)  buwch 260
Buchod bridio cig eidion :   
 Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 buwch 31 
 Ar dir arall buwch 80 
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)  pen 63 
Buchod llaeth i lenwi bylchau  pen 45 
Mamogiaid:   
 Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 mamog 14 
 Ar dir arall mamog 21 
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)  pen 1.05
Moch:   
 Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes 95
 Moch porc pen 1.90
 Moch torri pen 3.50
 Moch bacwn pen 5.50
Dofednod:   
 Ieir dodwy aderyn 1.25
 Brwyliaid/ieir bwyta aderyn 0.15
 Cywennod ar ddodwy aderyn 0.30
Tyrcwn Nadolig  aderyn 3.00
2. Cnydau âr fferm
Haidd  hectar 199 
Ffa  hectar 175 
Had porfa  hectar 120
Ceirch  hectar 131 
Rêp had olew  hectar 188 
Pys:   
 Sych hectar 201 
 Dringo hectar 175
Tatws:   
 Cynnar cyntaf hectar 900
 Prif gnwd (gan gynnwys hadau) hectar 780
Betys siwgr  hectar 270
Gwenith  hectar 266 
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
Ffa cyffredin  hectar 575
Ysgewyll Brwsel  hectar 1600
Bresych, bresych Safwy a brocoli blaguro  hectar 2000
Moron  hectar 3100
Blodfresych a brocoli'r gaeaf  hectar 1000
Seleri  hectar 8000
Cennin  hectar 3600
Letus  hectar 4150
Nionod/Winwns:   
 Bylbiau sych hectar 1305
 Salad hectar 3800
Pannas  hectar 3250
Riwbob (naturiol)  hectar 6900
Maip ac erfin/swêds  hectar 1500
4. Ffrwythau'r berllan
Afalau:   
 Seidr hectar 380
 Coginio hectar 1250
 Melys hectar 1400
Ceirios  hectar 900
Gellyg  hectar 1000
Eirin  hectar 1250
5. Ffrwythau meddal
Cyrans Duon  hectar 850
Mafon  hectar 3100
Mefus  hectar 4200
6. Amrywiol
Hopys  hectar 1700
7. Tir Porthiant
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001  hectar Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
8. Neilltir
Tir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fo'r tir hwnnw'n cael ei ddefnyddio (yn unol ag erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99) i ddarparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu o fewn y Gymuned gynhyrchion nad oeddent wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid  hectar 37
NODIADAU I ATODLEN 1











ATODLEN 2
UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Erthyglau 1(3), 2(4) a 2(5)


Colofn 1  Colofn 2 Colofn 3
Defnydd ffermio  Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel):  buwch 260
Buchod bridio cig eidion:   
 Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 buwch 31 
 Ar dir arall buwch 80 
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)  pen 63 
Buchod llaeth i lenwi bylchau  pen 45 
Mamogiaid:   
 Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 mamog 14 
 Ar dir arall mamog 21 
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)  pen 1.05
Moch:   
 Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes 95
 Moch porc pen 1.90
 Moch torri pen 3.50
 Moch bacwn pen 5.50
Dofednod:   
 Ieir dodwy aderyn 1.25
 Brwyliaid/ieir bwyta aderyn 0.15
 Cywennod ar ddodwy aderyn 0.30
Tyrcwn Nadolig  aderyn 3.00
2. Cnydau âr fferm
Haidd  hectar 199 
Ffa  hectar 175 
Had porfa  hectar 120
Ceirch  hectar 131 
Rêp had olew  hectar 188 
Pys:   
 Sych hectar 201 
 Dringo hectar 175
Tatws:   
 Cynnar cyntaf hectar 900
 Prif gnwd (gan gynnwys hadau) hectar 780
Betys siwgr  hectar 270
Gwenith  hectar 266 
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
Ffa cyffredin  hectar 575
Ysgewyll Brwsel  hectar 1600
Bresych, bresych Safwy a brocoli blaguro  hectar 2000
Moron  hectar 3100
Blodfresych a brocoli'r gaeaf  hectar 1000
Seleri  hectar 8000
Cennin  hectar 3600
Letus  hectar 4150
Nionod/Winwns:   
 Bylbiau sych hectar 1305
 Salad hectar 3800
Pannas  hectar 3250
Riwbob (naturiol)  hectar 6900
Maip ac erfin/swêds  hectar 1500
4. Ffrwythau'r berllan
Afalau:   
 Seidr hectar 380
 Coginio hectar 1250
 Melys hectar 1400
Ceirios  hectar 900
Gellyg  hectar 1000
Eirin  hectar 1250
5. Ffrwythau meddal
Cyrans Duon  hectar 850
Mafon  hectar 3100
Mefus  hectar 4200
6. Amrywiol
Hopys  hectar 1700
7. Tir Porthiant
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001  hectar Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
8. Neilltir
Tir a oedd, ym mlwyddyn farchnata 2004/2005, wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fo'r tir hwnnw wedi'i ddefnyddio (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99) i ddarparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu o fewn y Gymuned gynhyrchion nad oeddent wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid  hectar 37
NODIADAU I ATODLEN 2










