
2006 Rhif 2698 (Cy.230)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Asiantaeth Dalu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 10 Hydref 2006
Yn dod i rym 16 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran Polisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaeth Dalu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 16 Hydref 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Asiantaeth Dalu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 1999
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Asiantaeth Dalu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 1999 yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn lle paragraffau (c), (e) a (g) o reoliad 2 (Dehongli), rhodder y paragraffau canlynol—“
(c) “Commission Regulation” means Commission Regulation (EC) No 885/2006 laying down detailed rules for the application of the Council Regulation in relation to the accreditation of paying agencies”;“
(e) “the Council Regulation” means Council Regulation (EC) No 1290/2005 on the financing of the common agricultural policy, as last amended by Council Regulation (EC) No 320/2006;”;“
(g) “paying agency” has the meaning it has in Article 6 of the Council Regulation;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Hydref 2006