
2006 Rhif 2607 (Cy.220)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 26 Medi 2006
Yn dod i rym 30 Medi 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol—
RHAN 1 Darpariaethau Cyffredinol
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Medi 2006.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “ceffyl” (“horse”) yw anifail o rywogaeth y ceffyl neu'r asyn neu groesfridiau o'r rhywogaethau hynny, ond nid yw'n cynnwys sebras;
 ystyr “corff cydnabyddedig” (“recognised organisation”) yw corff neu gymdeithas—
(a) sy'n cadw llyfr gre y cofnodir neu y cofrestrir ceffylau ynddo neu sy'n llunio un o'r newydd; a
(b) sydd wedi'i gydnabod i'r diben hwn o dan reoliad 3;
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “llyfr gre” (“stud book”) yw unrhyw lyfr, cofrestr, ffeil neu gyfrwng cofnodi data—
(a) a gedwir gan gorff cydnabyddedig; a
(b) y cofnodir neu y cofrestrir ceffylau ynddo neu ynddi gan grybwyll eu holl hynafiaid sy'n hysbys.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae i ymadroddion nas diffinnir ynddynt ac sy'n digwydd ym Mhenderfyniad y Comisiwn 92/353/EEC neu Benderfyniad y Comisiwn 96/78/EC yr ystyr sydd iddynt at ddibenion y Penderfyniadau hynny.
RHAN 2 Cydnabyddiaeth i Gyrff
Meini prawf cydnabyddiaeth
3 

(1) Er mwyn cael ei gydnabod neu ei chydnabod yn gorff cydnabyddedig, rhaid i gorff neu gymdeithas—
(a) cyflwyno cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am gael ei gydnabod neu ei chydnabod yn gorff cydnabyddedig;
(b) cadw llyfr gre neu lunio un o'r newydd; ac
(c) bodloni'r meini prawf y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gydnabod unrhyw gorff neu gymdeithas sy'n bodloni'r meini prawf a geir ym mharagraff (1).
Gwrthod cydnabod cyrff neu dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrthynt
4 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod cydnabod corff neu gymdeithas, neu caiff dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrtho neu oddi wrthi, os yw'r corff neu'r gymdeithas—
(a) yn methu bodloni'r meini prawf cydnabyddiaeth a geir yn rheoliad 3(1);
(b) yn methu cydymffurfio â rheoliad 6; neu
(c) yn methu cydymffurfio â rheoliad 7.
(2) Os oes corff cydnabyddedig eisoes yn bodoli mewn cysylltiad â brid penodol o geffyl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod cydnabod corff neu gymdeithas sy'n cynrychioli'r un brid o geffyl—
(a) os yw o'r farn y byddai cydnabod y corff neu'r gymdeithas—
(i) yn peryglu parhad y brid hwnnw o geffyl;
(ii) yn rhoi yn y fantol y gwaith o redeg y corff cydnabyddedig sy'n bodoli eisoes; neu
(iii) yn rhoi yn y fantol raglen gwella neu ddethol y corff cydnabyddedig sy'n bodoli eisoes; neu
(b) os yw corff cydnabyddedig sy'n bodoli eisoes yn caniatáu i geffylau o'r brid hwnnw gael eu cofnodi mewn adran o'i lyfr gre sy'n llyfr y mae'r corff yn ei gadw'n unol â'r rheolau a osodir gan y corff cydnabyddedig sy'n cadw'r llyfr gre lle y cofnodir tarddiad y brid hwnnw.
(3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (1) neu (2) yn gwrthod cydnabod corff neu gymdeithas, neu'n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrtho neu oddi wrthi, rhaid iddo roi'n ysgrifenedig i'r corff hwnnw neu i'r gymdeithas honno y rhesymau am wrthod cydnabyddiaeth neu am ei thynnu'n ôl.
Sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol
5 

(1) Caiff person wneud sylwadau yn erbyn penderfyniad i wrthod cydnabyddiaeth i gorff neu gymdeithas neu i'w thynnu'n ôl oddi wrtho neu oddi wrthi o dan reoliad 4, a hynny'n ysgrifenedig ac i berson a benodir i'r diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Bydd y person a benodir yn ystyried y sylwadau ac yn rhoi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad terfynol ac o'r rhesymau drosto.
RHAN 3 Ffurf a Chynnwys Llyfr Gre
Rhannu prif adran llyfr gre
6 
Rhaid i gorff cydnabyddedig beidio â rhannu prif adran ei lyfr gre ac eithrio yn ddosbarthau gwahanol yn ôl rhinweddau'r ceffylau.
Cofnod gorfodol ym mhrif adran llyfr gre
7 

(1) Rhaid i gorff cydnabyddedig gofnodi ceffyl ym mhrif adran ei lyfr gre—
(a) os yw'r ceffyl hwnnw'n un o ddisgynyddion rhieni a gofnodwyd ym mhrif adran llyfr gre yr un brid;
(b) os yw pedigri'r ceffyl hwnnw wedi'i sefydlu'n unol â rheolau ei lyfr gre; ac
(c) os nodir bod y ceffyl hwnnw'n ebol wrth droed yn unol â rheolau ei lyfr gre, sy'n rheolau y mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf ofyniad am dystysgrif egluro.
(2) Os yw ceffyl yn gymwys i'w gofnodi mewn adran atodol o lyfr gre yn unol â'r meini prawf a geir yn rheoliad 8, rhaid i gorff cydnabyddedig ganiatáu i epil y ceffyl hwnnw gael ei gynnwys ym mhrif adran ei lyfr gre.
Cofnod yn adran atodol llyfr gre
8 
Os nad yw ceffyl yn bodloni'r meini prawf a geir yn rheoliad 7(1), caiff corff cydnabyddedig gofnodi'r ceffyl hwnnw mewn adran atodol o'i lyfr gre—
(a) os yw'r ceffyl hwnnw wedi'i nodi'n unol â rheolau ei lyfr gre;
(b) os yw'r corff cydnabyddedig yn barnu bod y ceffyl hwnnw'n cydymffurfio â safon y brid; ac
(c) os yw'r ceffyl hwnnw'n bodloni'r gofynion ynghylch isafswm perfformiad a geir yn y rheolau yn ei lyfr gre.
Rhaglenni croesfridio
9 
Os nad yw ceffyl yn bodloni'r meini prawf a geir yn rheoliad 7(1), caiff corff cydnabyddedig gofnodi'r ceffyl hwnnw ym mhrif adran ei lyfr gre er mwyn iddo gymryd rhan mewn rhaglen croesfridio—
(a) sydd wedi'i chymeradwyo gan y corff hwnnw'n unol â'r rheolau yn ei lyfr gre; a
(b) sy'n pennu pa fridiau y caniateir iddynt gymryd rhan yn y rhaglen honno.
Cofnodi ceffylau a gofrestrir mewn llyfrau gre eraill
10 
Os—
(a) daw cais i law corff cydnabyddedig oddi wrth berchennog ceffyl a gofrestrwyd mewn llyfr gre arall yn gofyn am i'r ceffyl hwnnw gael ei gofnodi ym mhrif adran llyfr gre'r corff ei hun; a
(b) yw corff cydnabyddedig wedi rhannu prif adran ei lyfr gre yn unol â rheoliad 6,rhaid i'r corff cydnabyddedig gofnodi'r ceffyl yn y dosbarth yn ei lyfr gre y mae'r ceffyl hwnnw'n bodloni meini prawf y dosbarth hwnnw.
Dirymu
11 
Dirymir Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) 1992 o ran Cymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Medi 20006
YR ATODLEN
Meini prawf cydnabyddiaeth
Rheoliad 3
Dull gweithredu cyrff cydnabyddedig
1 

(1) Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre lle y cofnodir tarddiad brid neu sy'n llunio un o'r newydd, fod wedi sefydlu—
(a) system ar gyfer cofnodi pedigri a rhaid bod ganddo neu ganddi'r gallu i gyflawni'r gwiriadau angenrheidiol ar gyfer cofnodi pedigri;
(b) system ar gyfer nodi ceffylau;
(c) diffiniad o nodweddion y brid y mae'r llyfr gre yn ymdrin ag ef;
(ch) diffiniad o amcanion sylfaenol ei ddull o ddethol; a
(d) llinachau a gofnodir mewn un llyfr gre arall neu fwy, lle y bo'n angenrheidiol.
(2) Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre, neu sy'n llunio un o'r newydd, ond nad yw'n cadw llyfr gre lle y cofnodir tarddiad y brid, gydymffurfio â'r egwyddorion a sefydlwyd o dan baragraff (1) gan y corff neu'r gymdeithas sy'n cadw'r llyfr gre lle y cofnodir tarddiad y brid.
(3) Rhaid i unrhyw gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre neu sy'n llunio un o'r newydd fodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod neu ei bod yn gweithredu'n effeithiol.
Rhaglenni gwella a dethol
2 
Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre neu sy'n llunio un o'r newydd—
(a) bod wedi cofrestru nifer digonol o geffylau i gyflawni rhaglen gwella neu ddethol neu i sicrhau parhad y brid pan dybir bod hyn yn angenrheidiol;
(b) gallu darparu'r data angenrheidiol ar gyfer cyflawni rhaglen gwella, dethol neu raglen sicrhau parhad; ac
(c) bod wedi sefydlu system ar gyfer darparu data sy'n caniatáu i geffylau gael eu gwerthuso at ddiben gwella, dethol a sicrhau parhad brid.
Trin bridwyr heb gamwahaniaethu
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid bod gan gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre neu sy'n llunio un o'r newydd reolau gweithdrefn sy'n darparu ar gyfer trin bridwyr heb gamwahaniaethu.
(2) Os oes sawl corff neu gymdeithas mewn cysylltiad â brid penodol yn bodoli eisoes o fewn tiriogaeth y Gymuned, caniateir i reolau gweithdrefn corff neu gymdeithas ddarparu bod yn rhaid i geffylau gael eu geni mewn tiriogeth benodol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer eu cofnodi yn llyfr gre'r corff neu'r gymdeithas at ddibenion datgan genedigaeth.
(3) Nid yw'r cymhwyster ym mharagraff (2) yn gymwys os at ddibenion atgenhedlu y cofnodir ceffyl yn y llyfr gre.