
2006 Rhif 1850 (Cy.193)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006
Wedi'u gwneud 11 Gorffennaf 2006
Yn dod i rym 13 Gorffennaf 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a), (2)(e) a (3), a 48 (1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac a freiniwyd ynddo ef bellach.
Yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2), maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 13 Gorffennaf 2006.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, , yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd gan orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “letus awdurdodedig” (“authorised lettuce”) yw letus o'r math a bennir ym mhwynt 1.3 o adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, sydd yn cydymffurfio ag amodau'r rhanddirymiad o dan Erthygl 3b.2 o'r Rheoliad hwnnw o ran y Deyrnas Unedig;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd fel y'i cywirwyd gan gorigendwm a gyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2001, ac fel y'i newidiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2375/2001, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 221/2002, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 257/2002, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 472/2002 fel y'i cywirwyd gan gorigendwm a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2002, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 563/2002 fel y'i cywirwyd gan gorigendwm a gyhoeddwyd ar 14 Mehefin 2002), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1425/2003), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2174/2003), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 242/2004, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 455/2004, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 683/2004, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 684/2004, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 78/2005, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 123/2005, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 208/2005, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 856/2005, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1822/2005) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 199/2006);
 ystyr “sbigoglys awdurdodedig” (“authorised spinach”) yw sbigoglys o'r math a bennir ym mhwynt 1.1 o adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, sydd yn cydymffurfio ag amodau'r rhanddirymiad o dan Erthygl 3b.1 o'r Rheoliad hwnnw o ran y Deyrnas Unedig;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi yn ysgrifenedig, naill ai yn gyffredinol neu yn benodol, gan awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod iechyd porthladd i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;
(2) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r term Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.
Tramgwyddau a chosbau
3 

(1) Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a geir yn y darpariaethau Cymunedol a bennir ym mharagraff (2), mae person yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol—
(a) os yw'r person hwnnw yn rhoi unrhyw fwyd ar y farchnad (ac eithrio letus awdurdodedig neu sbigoglys awdurdodedig) a gwmpesir gan Erthygl 1.1, 2.1, 2.2 neu 4.1 o Reoliad y Comisiwn, ond nad yw'n cydymffurfio â'r erthyglau hynny o'r Rheoliad hwnnw, fel y'u darllenir gydag Erthyglau 1.2 a 4.3 ohono; neu
(b) os yw'r person hwnnw yn mynd yn groes i Erthygl 2.3, 4.2 neu 4a o Reoliad y Comisiwn.
(2) Y darpariaethau Cymunedol y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) Erthygl 7 o Rheoliad y Comisiwn;
(b) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed nitrad mewn bwydydd i fabanod a phlant bach;
(c) Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 683/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed afflatocsinau ac ocratocsin A mewn bwydydd i fabanod a phlant bach;
(ch) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 123/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed ocratocsin A;
(d) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 208/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed hydrocarbonau polygylchol aromatig;
(dd) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 856/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed tocsinau Fusarium;
(e) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 199/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd parthed deucosinau a PCBs sy'n debyg i ddeuocsinau.
Gorfodi
4 
Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod porthladd o fewn ei ranbarth yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990
5 

(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(dd) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d);
(f) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) bydd adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn—“
9 

(1) An authorised officer of a food authority may at all reasonable times inspect any food intended for human consumption which has been placed on the market and subsections (2) to (7) below will apply where, on such an inspection, it appears to the authorised officer that the placing on the market of any food contravenes regulation 3(1)(a) of the Contaminants in Food (Wales) (No. 2) Regulations 2006.
(2) The authorised officer may either—
(a) give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food or any specified portion of it—
(i) is not to be used for human consumption, and
(ii) either is not to be removed or is to be removed to a place at which there are facilities to carry out sampling in the manner required by Article 1.3 of the Commission Regulation; or
(b) seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, the authorised officer is, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, to determine whether or not the authorised officer is satisfied that the food complies with the requirements referred to in regulation 3(1)(a) of the above Regulations, as appropriate and—
(a) if the authorised officer is so satisfied, will forthwith withdraw the notice;
(b) if the authorised officer is not so satisfied, will seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, the authorised officer will inform the person in charge of the food of the intention to have it dealt with by a justice of the peace and—
(a) any person who under regulation 3(1)(a) of the above Regulations might be liable to a prosecution in respect of the food will, if that person attends before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, be entitled to be heard and to call witnesses; and
(b) that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence under regulation 3(1)(a) of the above Regulations in relation to that food.
(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as the justice of the peace considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with by the justice of the peace under this section fails to comply with the requirements referred to in regulation 3(1)(a) of the above Regulations the justice of the peace will condemn the food and order—
(a) the food to be destroyed or to be so disposed of as to prevent it from being used for human consumption; and
(b) any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.
(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority will compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.
(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above will be determined by arbitration.
(8) Any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under subsection (2)(a) above will be guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.”.
(3) Bydd i'r ymadroddion “swyddog awdurdodedig”, “awdurdod bwyd”, “rhoi ar y farchnad”, “Rheoliad y Comisiwn” sy'n cyfateb yn eu tro i “authorised officer”, “food authority”, “placing on the market”, “the Commission Regulation” a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), yr ystyron sydd i'r ymadroddion hynny yn eu trefn yn y Rheoliadau hyn.
Diwygiad canlyniadol
6 
Yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006 rhodder y cofnod a ganlyn—“
The Contaminants in Food (Wales) (No. 2) Regulations 2006 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with the Commission Regulation as that expression is defined in those Regulations) S.I. 2006/1850(W.193)”
Dirymiadau
7 
Dirymir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Gorffennaf 2006