
2006 Rhif 1790 (Cy.186)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'i wneud 4 Gorffennaf 2006
Yn dod i rym 6 Gorffennaf 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 16BA, is-adrannau (1), (2) a (3) ac adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraff 1 o Atodlen 5B i'r Ddeddf honno, sy'n arferadwy ganddo o ran Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) (Diwygio) 2006 a daw i rym ar 6 Gorffennaf 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003.
Diwygio'r Atodlen i'r prif Orchymyn
3 

(1) Diwygir yr Atodlen i'r prif Orchymyn (Enwau Byrddau Iechyd Lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y maent yn cael eu sefydlu ar eu cyfer) fel a ganlyn:
(2) Yn y golofn sy'n dwyn y pennawd “Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan erthygl 3”—
(a) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Powys” (“Powys Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys” (“Powys Teaching Local Health Board”);
(b) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili” (“Caerphilly Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Caerffili” (“Caerphilly Teaching Local Health Board”); ac
(c) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf” (“Rhondda Cynon Taff Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf” (“Rhondda Cynon Taff Teaching Local Health Board”).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2006