
2006 Rhif 177 (Cy.28)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006
Wedi 'u gwneud 31 Ionawr 2006
Yn dod i rym 1 Chwefror 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 89(8)(e) ac (f), a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwyso ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y rheoliadau hyn—
 ystyr “cynigion statudol” (“statutory proposals”) yw cynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28;
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “nifer a dderbynnir” (“admission number”) yw nifer y disgyblion yn unrhyw grŵp oedran perthnasol y bwriedir eu derbyn yn unrhyw flwyddyn ysgol fel a benderfynir neu, lle bo'r cyd-destun yn mynnu, y bwridedir ei benderfynu, gan awdurdod derbyn yn unol ag adran 89A(1);
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliadau hyn at adran â Rhif neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf neu'r Atodlen honno i'r Ddeddf.
Amrywio'r trefniadau derbyn
3 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 89(8)(e) yr amgylchiadau pan gaiff awdurdod derbyn, ar ôl iddo benderfynu'r trefniadau derbyn a fydd yn gymwys ar gyfer blwyddyn ysgol benodol, (yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 89(5)) amrywio'r trefniadau hynny.
(2) Caiff awdurdod derbyn amrywio'r nifer a dderbynnir os yw amrywiad o'r fath yn angenrheidiol i weithredu y cynigion statudol—
(a) os cafodd y cynigion eu cymeradwyo o dan baragraff 8 o Atodlen 6; neu
(b) os yw'r corff neu'r hyrwyddwyr a gyhoeddodd y cynigion wedi penderfynu o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno weithredu'r cynigion.
(3) Nid yw gofynion adran 89(5) i (7) (amrywio arfaethedig ar drefniadau derbyn wrth ystyried newid mawr mewn amgylchiadau) yn gymwys i amrywiad arfaethedig o dan paragraff (2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006