
2006 Rhif 1749 (Cy.181)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 4 Gorffennaf 2006
Yn dod i rym 5 Gorffennaf 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Rheoliadau Optegol” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
Diwygiadau i'r Rheoliadau Optegol
2 
Yn rheoliad 19 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£48.00” rhodder “£49.20”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£12.40” rhodder “£12.70”.
Diwygiadau i'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol
3 

(1) Yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Optegol (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth tabl ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir ar ei gyfer yng ngholofn (2) o'r tabl isod yn ei le.

(1) (2)
Swm blaenorol Swm newydd
£32.90 £33.70
£50.00 £51.20
£73.10 £74.90
£165.00 £169.10
£56.80 £58.20
£72.20 £74.00
£93.60 £95.90
£181.40 £185.90
£169.00 £173.20
£48.00 £49.20
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Optegol (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bychain ac arbennig a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff (1)(1)(a), yn lle “£10.70” rhodder “£11.00”.
(b) ym mharagraff (1)(1)(b), yn lle “£12.80” rhodder “£13.10”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£3.60” rhodder “£3.70”.
(ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.10” rhodder “£4.20”;
(d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£54.10”, “£48.00” a “£26.00” rhodder “£55.50”, “£49.20” a “£26.60” yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff (1)(1)(g), yn lle “£54.10” rhodder “£55.50”;
(e) ym mharagraff (2)(a), yn lle “£12.40” rhodder “£12.70”; ac
(f) ym mharagraff (2)(b), yn lle “£31.30” rhodder “£32.10”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i'r Rheoliadau Optegol (gwerth talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 newydd a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth Drosiannol
4 
Dim ond o ran taleb a gafodd ei derbyn neu ei defnyddio yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar 5 Gorffennaf 2006 neu ar ôl hynny y bydd y symiau newydd a fewnosodir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2006
ATODLEN 3
Atodlen 3 i'r Rheoliadau Optegol fel y'i hamnewidir gan y Rheoliadau hyn
Rheoliad (3)(3)
“
SCHEDULE 3
VOUCHER VALUES REPAIR
Regulation 19(2) and (3)


(1) (2)
Nature of Repair Letter of Codes-Values
 A B C D E F G H I
 £ £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 10.50 19.25 31.10 78.20 22.75 30.65 41.60 86.60 80.25
Repair or replacement of two lenses 21.00 38.50 62.20 156.40 45.50 61.30 83.20 173.20 160.50
Repair or replacement of:        
The front of a frame 10.75 10.75 10.75 10.75 10.75 10.75 10.75 10.75 10.75
A side of a frame 6.40 6.40 6.40 6.40 6.40 6.40 6.40 6.40 6.40
The whole frame 12.70 12.70 12.70 12.70 12.70 12.70 12.70 12.70 12.70”