
2006 Rhif 1717 (Cy.179)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 28 Mehefin 2006
Yn dod i rym 16 Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 16 Hydref 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheolidau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999;
(b) ystyr “y Cyngor Cefn Gwlad” (“the Countryside Council”) yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru a sefydlwyd gan adran 128 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Diwygio'r prif Reoliadau
3 

(1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle pob cyfeiriad at “the Countryside Council” rhodder “the National Assembly”.
(3) Yn rheoliad 2(1)—
(a) Yn lle'r diffiniad o “the Commission Regulation” rhodder ““the Commission Regulation” means Commission Regulation (EC) 817 / 2004 laying down detailed rules for the application of the Council Regulation;”.
(b) Yn y diffiniad o “the Council Regulation”, ar ôl y gair “others” mewnosoder y geiriau canlynol, “as last amended by Council Regulation (EC) No. 1783 / 2003, Council Regulation (EC) No. 567 / 2004, Council Regulation (EC) No. 583 / 2004 and Council Regulation (EC) No. 2223 / 2004”.
(c) Dilëer y diffiniad o “Countryside Council”.
(ch) Ar ôl y diffiniad o “interest” mewnosoder y diffiniad canlynol ““the National Assembly” means the National Assembly for Wales;”.
Trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau
4 
Mae pob hawl a rhwymedigaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gytundeb yr ymrwymwyd ynddo yn unol â rheoliad 3 o'r prif Rheoliadau, yr oedd gan y Cyngor Cefn Gwlad hawl iddi neu oedd yn ddarostyngedig iddi yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfeiriadau at ddarpariaethau â Rhif yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750 / 1999
5 
Dylid dehongli pob cyfeiriad yn y prif Reoliadau at ddarpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/ 1999 yn unol ag Erthygl 74 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/ 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mehefin 2006