
2006 Rhif 1712 (Cy.174)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 27 Mehefin 2006
Yn dod i rym 30 Mehefin 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 55(3) o Ddeddf Tai 2004, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 30 Mehefin 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i unrhyw HMO yng Nghymru heblaw bloc o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004; a
(b) ystyr “mangre busnes” (“business premises”) yw mangre, neu unrhyw ran o fangre, nad yw'n llety i fyw ynddo, neu nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â llety i fyw ynddo, nac yn rhan hanfodol ohono.
Disgrifiad o HMOs a ragnodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
3 

(1) Mae HMO o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 55(2)(a) o'r Ddeddf pan fo'n bodloni'r amodau a ddisgrifir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a) mae'r HMO neu unrhyw ran ohono yn cynnwys tri llawr neu fwy;
(b) mae wedi'i feddiannu gan bum person neu fwy; ac
(c) mae wedi'i feddiannu gan bersonau sy'n byw mewn dwy aelwyd unigol neu fwy.
(3) Rhaid ystyried y lloriau canlynol wrth benderfynu a yw HMO neu unrhyw ran ohono yn cynnwys tri llawr neu fwy—
(a) unrhyw islawr—
(i) os caiff ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fwy ynddo;
(ii) os yw wedi'i adeiladu, ei drosi neu'i addasu i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo;
(iii) os yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â, ac fel rhan hanfodol o'r HMO; neu
(iv) os ef yw'r unig neu'r prif gofnod i'r HMO ar y stryd;
(b) unrhyw atig—
(i) os caiff ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo;
(ii) os yw wedi'i adeiladu, ei drosi neu'i addasu i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo, neu
(iii) os yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r HMO, ac fel rhan hanfodol ohono;
(c) os yw'r llety i fyw ynddo wedi'i leoli mewn rhan o'r adeilad uwchben mangre busnes, gyda phob llawr yn rhan o'r fangre busnes;
(ch) os yw'r llety i fyw ynddo wedi'i leoli mewn rhan o adeilad islaw mangre busnes, gyda phob llawr yn rhan o'r fangre busnes;
(d) unrhyw lawr mesanîn nad yw'n cael ei ddefnyddio'n unig fel mynedfa rhwng dau lawr cyffiniol—
(i) os caiff ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel llety i fyw ynddo; neu
(ii) os yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r HMO, ac fel rhan hanfodol ohono; ac
(dd) unrhyw lawr arall a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo neu mewn cysylltiad â'r HMO, ac fel rhan hanfodol ohono.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006