
2006 Rhif 1709 (Cy.171)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 27 Mehefin 2006
Yn dod i rym 7 Gorffennaf 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru,drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 233(1) a (4) o Ddeddf Tai 2004 ac wedi cymryd camau i ymgynghori â'r personau a grybwyllir yn adran 233(2) (a) a (b), ac wedi ei fodloni gyda'r trefniadau cyhoeddi yn unol ag adran 233(3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006 a a daw i rym ar 7 Gorffennaf 2006.
(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran mangreoedd yng Nghymru.
Cymeradwyo codau ymarfer
2 

(1) Mae'r codau ymarfer a grybwyllir ym mharagraff (2) sy'n gosod safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer sydd i'w dilyn parthed rheoli—
(a) tai amlfeddiannaeth a feddiennir yn unig neu'n bennaf gan bersonau sy'n eu meddiannu at y diben o ymgymryd â chwrs amser llawn o addysg bellach neu uwch; neu
(b) adeiladau sy'n cwympo o fewn paragraff 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 (adeiladau a feddiennir gan fyfyrwyr),
yn rhai a gymeradwyir at ddibenion adran 233 o'r Ddeddf.
(2) Y codau ymarfer yw—
(a) Cod Ymarfer Prifysgolion y DU/Cynhadledd Sefydlog Prifathrawon y Prifysgolion ar gyfer Rheoli Tai Myfyrwyr (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006;
(b) Cod Rhwydwaith Achrediad y DU/Cod Safonau Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy ar gyfer Llety i Fyfyrwyr a Reolir ac Sydd Dan Reolaeth Sefydliadau Addysgol (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006; ac
(c) Cod Rhwydwaith Achrediad y DU/Cod Safonau Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy ar gyfer Llety i Fyfyrwyr Nas Rheolir Gan ac Nad Ydynt Dan Reolaeth Sefydliadau Addysgol (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. 27 Mehefin 2006
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
