
2006 Rhif 1707 (Cy.169)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Sefydliadau Addysgol Penodedig) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 27 Mehefin 2006
Yn dod i rym 7 Gorffennaf 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 4(2) o Atodlen 14 o Ddeddf Tai 2004, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Sefydliadau Addysgol Penodedig) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2006.
(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Sefydliadau addysgol penodedig at ddibenion penodol o fewn Deddf Tai 2004
2 
Mae sefydliad addysgol yn un penodedig at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 os yw—
(a) wedi ei restru yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn; a
(b) wedi ei restru fel y sefydliad addysgol perthnasol o ran adeilad—
(i) sydd wedi ei restru yn yr Atodlen i God Ymarfer Prifysgolion y DU/Cynhadledd Sefydlog Prifathrawon y Prifysgolion ar gyfer Rheoli Cartrefi Myfyrwyr (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006; neu
(ii) wedi ei restru yn ail golofn Atodlen 1 i God Rhwydwaith Achrediad y DU/Cod Safonau Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy ar gyfer Llety i Fyfyrwyr a Reolir ac sydd dan Reolaeth Sefydliadau Addysgol (Cynru) dyddiedig 16 Mai 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006
ATODLEN
Sefydliadau addysgol penodedig at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004
Rheoliad 2(a)


 Prifysgol Caerdydd;
 Prifysgol Morgannwg;
 Athrofa Addysg Uwch Abertawe;
 Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd;
 Prifysgol Cymru, Aberystwyth;
 Prifysgol Cymru, Bangor;
 Coleg y Drindod Caerfyrddin;
 Prifysgol Cymru, Casnewydd;
 Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan;
 Prifysgol Cymru, Abertawe.
