
2006 Rhif 1703 (Cy.165)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol ac Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 27 Mehefin 2006
Yn dod i rym 6 Gorffennaf 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(4), (7)(f) ac (8), 12(2), 14(1)(d), 15(3), 16(1), 16(3), 22(1), (2)(a) i (d), (f) — (j), (5)(a) a (7)(a) i (h), (j) a (k), 25(1), 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac ar ôl iddo ymgynghori â'r personau hynny y mae'n eu hystyried yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol ac Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 6 Gorffennaf 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonnau Gofal 2000.
Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
3 

(1) Yn rheoliad 2(1) (Dehongli) o Reoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) yn y diffiniad o “sefydliad” (“establishment”) yn lle'r geiriau “neu glinig annibynnol” rhodder y canlynol—
 “clinig annibynnol neu asiantaeth feddygol annibynnol;
(2) Ar ôl rheoliad 4 o Reoliadau 2002, rhodder y canlynol—“
Eithrio ymgymeriad rhag ei gynnwys yn y diffiniad o asiantaeth feddygol annibynnol
3A 
At ddibenion y Ddeddf, eithrir unrhyw ymgymeriad sy'n darparu gwasanaethau meddygol gan ymarferydd meddygol yn unig o dan drefniadau a wneir ar ran y cleifion gan eu cyflogwr neu berson arall rhag bod yn asiantaeth feddygol annibynnol.”
(3) Yn rheoliad 8(1) (Polisïau a gweithdrefnau) yn lle'r geiriau “mewn neu at ddibenion sefydliad mewn perthynas ag” rhodder y canlynol:—“mewn ysbyty annibynnol neu glinig annibynnol, neu at eu dibenion, o ran pob un o'r materion a bennir isod, ac at ddibenion asiantaeth feddygol annibynnol o ran pob un o'r materion a bennir yn is-baragraffau (a), (b), (dd), (e) ac (f)”.
(4) Yn rheoliad 10(3) rhodder “sefydliad” yn lle'r gair “cartref”.
Trefniadau trosiannol
4 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bersonau y mae'n ofynnol iddynt yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn gael eu cofrestru o dan y Ddeddf ond nad oedd yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn union cyn 6 Gorffennaf 2006.
(2) Er gwaethaf unrhyw un o'r darpariaethau hynny, caiff person a oedd yn union cyn 6 Gorffennaf 2006 yn rhedeg neu'n rheoli asiantaeth feddygol annibynnol barhau i redeg neu reoli'r asiantaeth heb iddo gael ei gofrestru o dan y Ddeddf—
(a) yn ystod y 3 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a
(b) os gwneir cais am gael cofrestru o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes y gwaredir y cais hwnnw yn derfynol neu y'i tynnir yn ôl.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “gwaredir yn derfynol” yw'r dyddiad 28 o ddiwrnodau ar ôl caniatáu neu wrthod cofrestriad ac, os apelir, y dyddiad pan benderfynir ar yr apêl yn derfynol neu'r dyddiad pan roddir y gorau iddo.
Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
5 

(1) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “appropriate office of the National Assembly”, ar ôl paragraff (j) rhodder—“
(k) in relation to an independent medical agency—
(i) if an office has been specified under regulation 2(2) of the Private and Voluntary Health Care (Wales) Regulations 2002 for the area in which the independent medical agency is situated, that office;
(ii) in any other case, any office of the National Assembly.”;
(b) yn y diffiniad o “statement of purpose” ym mharagraff (c) mewnosoder y geiriau “or independent medical agency” ar ôl “independent clinic”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006