
2006 Rhif 1701 (Cy.163)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 27 Mehefin 2006
Yn dod i rym 30 Mehefin 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(1), (4) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “gwasanaeth cyn-allforio” (“pre-export service”) yw unrhyw arolygiad neu archwiliad iechyd planhigion, gan gynnwys cymryd samplau, y mae'n ofynnol eu cyflawni er mwyn bodloni gofynion ffytoiechydol trydedd wlad, heblaw unrhyw wasanaeth o'r fath sy'n ofynnol ar gyfer dyroddi tystysgrif o dan y Gorchymyn hwn;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer” ) yw—
(a)  person a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 neu
(b)  unrhyw swyddog arall o'r Cynulliad Cenedlaethol;
 mae i “trydedd wlad” yr un ystyr yn Gorchymyn hwn ag sydd i “third country” yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993;
 ystyr “tystysgrif” (“certificate”), o ran cais a gaiff ei wneud yn unol â'r Gorchymyn hwn, yw naill ai tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, yn ôl y digwydd;
 ystyr “tystysgrif ffytoiechydol” (“phytosanitary certificate”) yw tystysgrif a gafodd ei chwblhau'n briodol yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1 neu mewn ffurf debyg arall y gellir cytuno arni rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r drydedd wlad y bwriedir i'r dystysgrif fodloni ei gofynion ffytoiechydol; ac
 ystyr “tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio” (“phytosanitary certificate for re-export”) yw tystysgrif a gafodd ei chwblhau'n briodol yn y ffurf a bennir yn Atodlen 2 neu mewn ffurf debyg arall y gellir cytuno arni rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r drydedd wlad y bwriedir i'r dystysgrif fodloni ei gofynion ffytoiechydol.
(2) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran unrhyw dystysgrif neu wasanaeth a ddarperir gan neu ar ran y Comisiynwyr Coedwigaeth.
Tystysgrifau ar gyfer allforio planhigion etc. i drydydd gwledydd
3 

(1) Caiff person sy'n bwriadu allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydedd wlad wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am dystysgrif o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cais a wnaed o dan baragraff (1), rhaid i swyddog awdurdodedig:—
(a) cyflawni unrhyw rai o'r gwasanaethau a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 y mae o'r farn eu bod yn caniatáu iddo ddyroddi'r dystysgrif; a
(b) os yw wedi'i fodloni y dylid dyroddi tystysgrif, dyroddi'r dystysgrif ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Caiff swyddog awdurdodedig awdurdodi unrhyw berson yn ysgrifenedig i arolygu gronynnau pan fo arolygiad o'r fath yn ofynnol i alluogi'r swyddog hwnnw i ddyroddi'r dystysgrif.
Gwasanaethau cyn-allforio
4 

(1) Caiff person sy'n bwriadu allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydedd wlad neu drydydd gwledydd wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am wasanaeth cyn-allforio o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cais a wnaed o dan baragraff (1), rhaid i swyddog awdurdodedig—
(a) cyflawni unrhyw rai o'r gwasanaethau cyn-allforio y mae'r swyddog awdurdodedig o'r farn eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a gafodd gofynion mewnforio'r wlad neu'r gwledydd ar gyfer allforio a bennir yn y cais eu bodloni; a
(b) rhoi i'r ceisydd ganlyniadau unrhyw arolygiad neu archwiliad a gynhaliwyd.
Ffioedd am ddyroddi tystysgrifau a darparu gwasanaethau
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid talu i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) o ran y gwasanaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn gyntaf Atodlen 3, y ffi a bennir gyferbyn yn ail golofn yr Atodlen honno; a
(b) o ran gwasanaeth cyn-allforio, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 4.
(2) Rhaid i allforiwr bach dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a)  o ran y gwasanaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 naill ai—
(i) y ffi a bennir gyferbyn yn nhrydedd golofn Atodlen 3; neu
(ii) os yw cyfanswm y ffioedd o ran unrhyw wasanaethau o dan y Gorchymyn hwn y daeth yn atebol amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais ganddo yn fwy na £250, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 3; a
(b) o ran gwasanaeth cyn-allforio naill ai—
(i) y ffi a bennir yn nhrydedd golofn Atodlen 4; neu
(ii) os yw cyfanswm y ffioedd o ran unrhyw wasanaethau o dan Gorchymyn hwn y daeth yn atebol amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais ganddo yn fwy na £250, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 4.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “allforiwr bach” (“small exporter”) yw person, yn y flwyddyn ariannol pan wneir y cais—
(a) nad yw'n berson trethadwy at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994; neu
(b) nad yw'n cyflenwi'n drethadwy blanhigion, cynhyrchion planhigion, hadau, pridd neu beiriannau amaethyddol at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994; neu
(c) na wnaeth allforio yn y flwyddyn ariannol flaenorol nwyddau a thystysgrif gyda hwy yr oedd cyfanswm eu gwerth yn £5,000 neu fwy.
Tramgwyddau
6 

(1) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person, at ddibenion peri bod tystygrif yn cael ei dyroddi o dan y Gorchymyn hwn—
(a) yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn anwir mewn manylyn perthnasol;
(b) yn ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n anwir mewn manylyn perthnasol; neu
(c) yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.
(2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006
ATODLEN 1
FFURF AR DYSTYSGRIF FFYTOIECHYDOL
Erthygl 2

ATODLEN 2
FFURF AR DYSTYSGRIF FFYTOIECHYDOL AR GYFER AILALLFORIO
Erthygl 2

ATODLEN 3
Erthyglau 3 a 5


Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau Ffi Ffi(allforiwr bach)

(1) Gwasanaethau am lwythi heblaw gronynnau:
Arolygiad a, phan fo angen, archwiliad mewn labordy £20.25 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £40.50 £10.13 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £20.25
Archwiliad mewn labordy yn unig £20.00 £10.00
Dyroddi tystysgrif pan nad oes angen arolygiad neu archwiliad mewn labordy £5.00 £2.50

(2) Gwasanaethau ar gyfer llwythi o ronynnau:
Monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3), a phan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig £45.00 £22.50
ATODLEN 4
Erthygl 5


Gwasanaeth Ffi Ffi (allforiwr bach)
Gwasanaeth cyn-allforio £20.25 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £40.50 £10.13 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £20.25