
2006 Rhif 1700 (Cy. 162) (C. 59)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2006
Wedi'i wneud 29 Mehefin 2006
Yn dod i rym 30 Mehefin 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2006 a daw i rym ar 30 Mehefin 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005
2 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005, hepgorer y geiriau “Cyngor Sir Ynys Môn”.
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Rosemary F Thomas
Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru
29 Mehefin 2006