
2006 Rhif 1660 (Cy.159) (C.56)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'i wneud 21 Mehefin 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 47(5), 52(3), (4) a (6) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol , drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006.
Diwygio'r Gorchymyn
2 
Mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:
Yn lle erthygl 5 rhodder yr erthyglau canlynol—“
5 
Daw adran 44(4) i rym ar 23 Mehefin 2006.
5A 
Daw adran 44(3) i rym ar 1 Medi 2006.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mehefin 2006