
2006 Rhif 1532 (Cy.150)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 13 Mehefin 2006
Yn dod i rym Hydref 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 2 Hydref 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn:
 ystyr “blwyddyn” (“year”) yw blwyddyn sy'n cychwyn ar 1 Ebrill ac yn gorffen ar 31 Mawrth;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;
 ystyr “gwaith” (“works”) yw gwaith stryd sy'n cynnwys cloddio neu adfer unrhyw ran o stryd;
 mae i “pibell gyswllt” a “llinell gyswllt” yr ystyr sydd i “service pipe” a “service line” ym mharagraff 7(3) o Atodlen 4 i'r Ddeddf;
 ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw ymgymerydd sy'n gwneud gwaith stryd yn rhinwedd hawl statudol.
Ffioedd Arolygu
3 

(1) Rhaid i ymgymerydd dalu i'r awdurdod strydoedd ffi o £21 am bob tro y caiff gwaith ei arolygu am dâl gan yr awdurdod strydoedd.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, yn ddarostyngedig i baragraff (6) isod, arolygu gwaith am dâl yw arolygu ar hap ddim llai na 10 y cant a dim mwy na 10.5 y cant o bob un o gyfnodau'r gwaith, a dim mwy na 30 y cant o gyfanswm nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn unrhyw flwyddyn.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, dyma beth yw uned arolygu:
(a) un darn a gloddir nad yw'n hirach na 200 metr o hyd; neu
(b) mwy nag un darn a gloddir ond nid mwy na phump ac, yn achos gwaith sy'n ymwneud â phibellau cyswllt a llinellau cyswllt, dim mwy na 10 darn a gloddir, ar yr amod ym mhob achos–
(i) bod pob darn a gloddir yn yr un stryd,
(ii) bod pob darn a gloddir yn rhan o'r un gwaith,
(iii) bod pob darn a gloddir yn cael ei gloddio o fewn cyfnod o 10 niwrnod gwaith,
(iv) bod pob darn a gloddir o fewn 500 metr i bob darn arall a gloddir; a
(v) nad yw hyd cyfan yr holl ddarnau a gloddir yn fwy na 200 metr gyda'i gilydd; neu
(c) yn achos cloddio darn sy'n fwy na 200 metr o hyd, pob darn a gloddir o 200 metr o hyd o fewn y darn hwnnw a gloddir neu falans y cyfryw ddarn.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, dyma'r cyfnodau gwaith:–
(a) y cyfnod y bydd y gwaith yn cael ei wneud, yn gorffen ar y diwrnod y cwblheir y gwaith adfer dros dro neu'n barhaol;
(b) y cyfnod o chwe mis yn cychwyn ar y diwrnod y cwblheir y gwaith adfer dros dro neu'n barhaol; ac
(c) y cyfnod o dri mis yn union cyn diwedd–
(i) yn achos cloddio'n ddyfnach nag 1.5 metr o fesur i dop yr offer a hynny dros ddarn o 5 metr neu fwy, 3 blynedd o ddyddiad gorffen y gwaith adfer parhaol,
(ii) mewn unrhyw achos arall, 2 flynedd o ddyddiad gorffen y gwaith adfer parhaol.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (6) isod, nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn blwyddyn yw cyfartaledd nifer yr unedau arolygu ar gyfer yr ymgymerydd fesul blwyddyn wedi'i gyfrifo dros y tair blynedd sy'n dod yn syth o flaen y flwyddyn honno.
(6) Pan na fydd ymgymerydd eisoes wedi gwneud unrhyw waith stryd ar strydoedd y mae'r awdurdod sy'n cyflawni'r arolygiadau'n awdurdod strydoedd drostynt, nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy ym mhob un o'r tair blynedd gyntaf yw nifer amcangyfrifedig yr unedau arolygu ar gyfer yr ymgymerydd yn y flwyddyn honno.
(7) At ddibenion gwneud yr amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (6), rhaid i'r ymgymerydd, cyn cyflawni unrhyw waith mewn strydoedd y mae'r awdurdod sy'n cyflawni'r arolygiadau'n awdurdod strydoedd drostynt, ddarparu ar gyfer yr awdurdod strydoedd amcangyfrif o nifer yr unedau arolygu y mae'n arfaethu eu cynhyrchu y flwyddyn honno.
(8) Pan fydd ymgymerydd yn methu darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd o fewn y cyfnod o amser y cyfeirir ato ym mharagraff (7) uchod, rhaid i'r awdurdod strydoedd gyflawni cymaint o arolygiadau ag y bydd yr awdurdod strydoedd o'r farn eu bod yn briodol a chodi ar yr ymgymerydd hwnnw ffi o £21 amdanynt, hyd oni fydd yr ymgymerydd yn darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd, ac ar yr adeg honno bydd darpariaethau paragraff (9) isod yn gymwys.
(9) Unwaith y bydd yr ymgymerydd y cyfeirir ato ym mharagraff (8) uchod wedi darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd, bydd y darpariaethau ym mharagraff (6) uchod yn gymwys, a bernir y bydd y tair blynedd gyntaf, y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yn cychwyn ar y dyddiad y daw'r amcangyfrif i law'r awdurdod strydoedd.
Dirymiadau
4 

(1) Dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
(2) Dirymir y Rheoliadau canlynol:
(a) Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001.
(b) Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002.
(c) Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mehefin 2006