
2006 Rhif 1513 (Cy.149)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 13 Mehefin 2006
Yn dod i rym 14 Mehefin 2006

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006, meant yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i anfieiliaid a gedwir ar gyfer pwrpasau ymchwil mewn mangreoedd a gymeradwyir ar gyfer y pwrpas hynny o dan Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn–
 ystyr Anifail y credir iddo gael ei heintio (“Suspect animal”) yw anifail y credir iddo gael ei heintio gyda TSE;
 ystyr Rheoliad TSE y Gymuned (“Community TSE Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai mathau o Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy , fel y'i diwygiwyd gyda, ac fel y'i ddarllenir gyda'r offerynnau a nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006;
 ystyr y Cynulliad Cenedlaethol (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru means the National Assembly for Wales;
 ystyr “TSE” (“TSE”) yw enseffalopathi sbyngffurf trosglwyddadwy.
(2) Mae gan ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac sydd yn ymddangos yn Rheoliad TSE y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned.
Iawndal am ddefaid neu eifr sy'n cael eu cigydda fel anifail yr amheuir
3 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal yn unol â'r paragraff hwn pan fo dafad neu afr wedi ei ladd fel anifail y credir iddo gael ei heintio.
(2) Lle bo cadarnhad fod dafad neu afr wedi cael ei effeithio gan TSE, mae'r iawndal yn–
(a) £30 mewn achos anifail ar ddiwedd ei oes gynhyrchiol; ac
(b) £90 mewn unrhyw achos arall.
(3) Lle nad oes cadarnhad ei fod wedi cael ei effeithio gan TSE, yr iawndal yw'r uchaf o'r–
(a) swm a fyddai wedi bod yn daladwy o dan y paragraff hwn pe byddid wedi cael cadarnhad bod yr anifail wedi cael ei effeithio gan TSE; neu
(b) swm y bo'n ymddangos i'r Cynulluiad Cenedlaethol ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan berchennog yr anifail, ac unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol, ei fod yn adlewyrchu gwerth yr anifail ar y farchnad, yn ddarostyngedig i uchafswm o £400 am bob anifail.
Iawndal am anifeiliaid sy'n cael eu lladd neu y bo eu cynhyrchion yn cael eu dinistrio ar ôl cadarnhau TSE
4 
Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal i berchennog anifeiliaid sydd wedi cael eu lladd a'u cynhyrchion wedi eu dinistrio o dan Atodlen 4 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 yn dilyn cadarnhau TSE yn unol â darpariaethau yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Prisio
5 

(1) Os yw perchennog anifail o'r farn fod yr iawndal a delir yn yr Atodlen yn afresymol, gall ef neu hi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o hyn, a bydd y weithdrefn yn Rheoliad 15 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf (Cymru) 2006 yn berthnasol, gyda'r perchennog yn talu unrhyw ffi sydd yn codi o enwebu a chyflogi prisiwr.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, wedi cymeryd i ystyriaeth yr holl amgylchiadau fod yr iawndal yn yr Atodlen yn ormodol gall brisio'r anifail yn unol â'r weithdrefn yn Rheoliad 15, ond yn yr achos yma bydd yn rhaid iddo dalu unrhyw ffi sydd yn codi am enwebu neu gyflogi prisiwr.
(3) Rhaid i'r prisiwr brisio'r anifail yn unol â'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am yr anifail o brynwr mewn marchnad agored pe byddai'r anifail o braidd nad oed wedi ei effeithio gan TSE.
Diddymu
6 
Mae darpariaethau rheoliadau 8, 9, 84, 93, Rhan o Atodlen 1, paragraff 17 o Ran IV o Atodlen 6A a paragraffau 4 ac 8 o Atodlen 7, sydd yn ymwneud â thalu iawndal yn dilyn cigydda defaid a geifr, Reoliadau TSE (Cymru) 2002yn cael ei dirymu pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) of Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mehefin 2006
YR ATODLEN
Rheoliad 4
Iawndal


Anfail neu gynnyrch Iawndal (£) Iawndal (£)
Dafad neu afr wryw 90 90
Dafad neu afr fenyw 90 65
Oen (o dan 12 mis oed) neu fyn (o dan 12 mis oed) 50 40
Embryonau 150 150
Ofa 5 5


Nodyn ynglŷn â'r cyfraddau

Ar neu ar ôl 14 Mehefin 2006

(a) Bydd y gyfradd yng Ngholofn A yn daladwy os–
(i) yw'r perchennog yn hysbysu ynghylch anifail o dan baragraff 1 o Atodlen 4 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006; ac
(ii) os oedd yr anifail y telir iawndal amdano yn ddiadell neu'r gyr cyn 14 Mehefin 2006;
a
(b) y gyfradd yng ngholofn B yn daladwy ymhob achos arall.