
2006 Rhif 1511 (Cy.147)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 13 Mehefin 2006
Yn dod i rym Mehefin 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodiat ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn–
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”), mewn perthynas ag ardal, yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
 ystyr “daliad” (“holding”) yw cyfleuster a ddefnyddir ar gyfer magu neu gadw brwyliaid;
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/636/EC ynghylch cyfraniad ariannol gan y Gymuned at arolwg gwaelodlin ar ba mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn heidiau o frwyliaid Gallus gallus a hwnnw'n arolwg sydd i'w gynnal yn yr Aelod-wladwriaethau ;
(2) Mae i ymadroddion a ddiffinnir ym Mhenderfyniad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.
Y cyfrifoldeb dros ddethol
3 
Y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddethol daliadau i'w samplu at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn.
Dethol daliadau
4 

(1) Rhaid i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad (neu unrhyw gyflogai neu asiant i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad) anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn pen 7 niwrnod ar ôl cael cais gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr wybodaeth y mae arno ei hangen i'w gynorthwyo i ddethol y daliadau sydd i'w cynnwys yn yr arolwg at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn, gan gynnwys–
(a) y nifer o frwyliaid neu'r nifer o heidiau o frwyliaid ar y daliad;
(b) nifer ac amserau cylchdroeon yr heidiau o frwyliaid ar y daliad; ac
(c) math cynhyrchu'r brwyliaid ar y daliad.
(2) Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Pwerau arolygwyr
5 

(1) Mae gan arolygydd, ar ôl dangos rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol, i fynd i mewn i unrhyw ddaliad a ddetholir yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn, er mwyn canfod yn unol â'r Penderfyniad hwnnw–
(a) a yw Salmonela spp. yn bodoli neu wedi bodoli yno;
(b) statws brechu'r brwyliaid ar y daliad yn erbyn Salmonela; ac
(c) a yw cyffuriau gwrthficrobaidd wedi'u defnyddio.
(2) Yn ychwanegol at ei hawl o dan baragraff (1), caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw ddaliad er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(3) Pan fo wedi mynd i mewn i ddaliad, caiff arolygydd–
(a) cymryd samplau o deunydd ysgarthol;
(b) archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag, gan gynnwys cofnodion cyfrifiadurol, a chymryd copïau o'r cofnodion hynny;
(c) holi unrhyw berson; ac
(ch) cymryd gydag ef unrhyw berson, cerbyd neu gyfarpar y mae'n barnu ei bod yn angenrheidiol i roi'r Rheoliadau hyn ar waith neu i'w gorfodi.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “arolygydd” yw unrhyw berson a benodir i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol.
Tramgwyddau
6 
Bydd unrhyw berson sydd–
(a) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b) heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei roi neu ei rhoi er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(c) yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol; neu
(ch) yn methu, heb esgus rhesymol, â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, yn euog o dramgwydd.
Y gosb
7 
Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
8 

(1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu gynrychiolydd tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd ef, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Gorfodi
9 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai ef, ac nid yr awdurdod lleol, sy'n gorfod cyflawni unrhyw ddyletswydd a osodwyd ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mehefin 2006