
2006 Rhif 1403 (Cy.140) (C.48)
TRAFNIDIAETH
Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006
Wedi'i wneud 24 Mai 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12 a 13 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006.
Y diwrnod penodedig
2 

(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) isod i rym ar 26 Mai 2006.
(2) Mae'r darpariaethau fel a ganlyn–
(a) Adran 1 (dyletswydd drafnidiaeth gyffredinol)
(b) Adran 2 (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru)
(c) Adran 3 a'r Atodlen (cynlluniau trafnidiaeth lleol)
(ch) Adran 4 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau trafnidiaeth)
(d) Adran 5 (cyd-awdurdodau trafnidiaeth)
(dd) Adran 6 (cymorth ariannol: swyddogaethau trafnidiaeth lleol)
(e) Adran 7 (darparu gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus i deithwyr)
(f) Adran 8 (Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru)
(ff) Adran 9 (swyddogaethau'r Pwyllgor)
(g) Adran 10 (canllawiau a chyfarwyddiadau i'r Pwyllgor)
(ng) Adran 11 (cymorth ariannol: gwasanaethau trafnidiaeth awyr)
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2006